Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Y Cynghorydd D G Sullivan – Cofnod Rhif: 83 – fel a nodwyd yn flaenorol. |
|
Cymeradwyo, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion Panel
Llywodraethwyr yr ALl a gynhaliwyd ar 25 Awst 2016 yn
gofnod cywir. |
|
Swyddi gwag ar gyfer llywodraethwyr yr ALl. (Er Gwybodaeth). PDF 52 KB Cofnodion: Rhoddodd Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr
adroddiad "er gwybodaeth" am y rhestr bresennol o swyddi gwag
llywodraethwyr yr ALl. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i Banel Llywodraethwyr yr ALl wahardd y
cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn
argymhelliad yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel a nodir ym mharagraffau gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r
eitem fusnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd Panel Llywodraethwyr yr ALl Brawf Budd
y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr
eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr
adroddiad. PENDERFYNWYD gwahardd y
cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl. (I'w cymeradwyo.) Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr y ceisiadau ar gyfer
swyddi gwag llywodraethwyr yr ALl yr oedd angen
penderfynu arnynt. CYTUNWYD: 1) Y dylai'r enwebiadau canlynol gael eu hargymell i'r Cabinet i'w
cymeradwyo: Ysgol Gyfun yr Esgob Gore - Mrs Margaret (Peggy)
George (ailbenodi) Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe – Mr David Meirion Howells
(cais newydd). |
|
Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil. (Er Gwybodaeth.) Cofnodion: Rhoddodd
Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth"
am y rhestr bresennol o geisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil. |