Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y
buddiannau canlynol: Y
Cynghorydd D G Sullivan – Cofnod Rhif: 64 – fel a nodwyd yn flaenorol. Y
Cynghorydd D G Sullivan – Cofnod Rhif: 64 – rwy'n adnabod un o'r
ymgeiswyr. Gadawodd y Cynghorydd D G
Sullivan cyn ystyried yr eitem. Y Cynghorydd V M Evans – Cofnod Rhif: 64 – Personol – rwy'n adnabod un o'r ymgeiswyr. Gadawodd y Cynghorydd V M Evans y cyfarfod cyn ystyried yr eitem. |
|
Cymeradwyo, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion Panel Llywodraethwyr yr ALl a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2016 yn gofnod cywir. |
|
Swyddi gwag ar gyfer llywodraethwyr yr ALl. (Er Gwybodaeth). PDF 56 KB Cofnodion: Rhoddodd y Swyddog Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth" ar y rhestr bresennol o swyddi gwag llywodraethwyr yr ALl. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y
nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd
gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007
sy'n berthnasol i'r eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd Panel Llywodraethwyr yr ALl Brawf Budd y
Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr
eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr
adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar
gyfer yr eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl. (I'w cymeradwyo.) Cofnodion: Cyflwynodd
y Swyddog Ysgolion a Llywodraethwyr y ceisiadau ar gyfer swyddi gwag
llywodraethwyr yr ALl yr oedd angen penderfynu arnynt. CYTUNWYD: 1)
Y dylai'r enwebiadau canlynol gael eu hargymell i'r Cabinet i'w cymeradwyo: Ysgol Gynradd Craigcefnparc - Mrs Cathy Vince Ysgol
Gynradd y Grange – Mr Stuart Lynch Ysgol
Gynradd Pentre’r graig - Mr Michael John Fuge Ysgol
Gynradd Plasmarl - Mr Colin Goulding YGG
Bryniago - Mr Lee Richards Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt - Mr Jordan Hill |
|
Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil. (Er Gwybodaeth.) Cofnodion: Rhoddodd y Swyddog Ysgolion a Llywodraethwyr
adroddiad "er gwybodaeth" ar y rhestr bresennol o geisiadau i fod yn
Llywodraethwyr yr ALl a gedwir
ar ffeil. |