Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

114.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

115.

Cofnodion: pdf eicon PDF 57 KB

Cymeradwyo, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion Panel Llywodraethwyr yr ALl a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2017 yn gofnod cywir.

 

116.

Swyddi gwag ar gyfer llywodraethwyr yr ALl. (Er Gwybodaeth). pdf eicon PDF 58 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth" ar y rhestr bresennol o swyddi gwag Llywodraethwyr yr ALl.

 

117.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

 

118.

Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl. (I'w cymeradwyo.)

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr y ceisiadau ar gyfer swyddi gwag Llywodraethwyr yr ALl yr oedd angen penderfynu arnynt.

 

PENDERFYNWYD argymell yr enwebiadau canlynol i'r Cabinet i'w cymeradwyo:

 

Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc - Mrs Gaynor Ellis

 

Ysgol Gynradd y Gors - Mrs Ann Morgan (Ailbenodiad)

 

Ysgol Gynradd y Grange - Mrs Bronwen Williams (Ailbenodiad)

 

Ysgol Gynradd Mayals - Mrs Margaret Collins (Ailbenodiad)

 

Ysgol Gynradd Townhill - Mrs Joanne Martin (Ailbenodiad)

 

Ysgol Gyfun Gatholig yr Esgob Vaughan

 

Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw - Mr Adam Gilbert

 

Ysgol Gyfun Gŵyr - y Parch Ian Morris (Ailbenodiad)

 

Ysgol Pen y Bryn - Mrs Jeannette Simpson

 

Ysgol Crug Glas - Y Cyng. Fiona Gordon (Ailbenodiad)

 

 

119.

Ceisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil. (Er Gwybodaeth.)

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr adroddiad "er gwybodaeth" ar y rhestr bresennol o geisiadau i fod yn Llywodraethwyr yr ALl a gedwir ar ffeil.