Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

19.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorwyr J E Burtonshaw, N J Davies, M Durke, L S Gibbard, L James, M Jones, E T Kirchner, W G Lewis, B J Rowlands, G J Tanner, Linda J Tyler-Lloyd ac L V Walton gysylltiad personol â chofnod rhif 21 "Polisi Lwfansau TGCh y Cynghorwyr - Mai 2022 a thu hwnt" a chofnod rhif 25 "Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2022-2023 – Ymgynghoriad”

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorwyr J E Burtonshaw, N J Davies, M Durke, L S Gibbard, L James, M Jones, E T Kirchner, W G Lewis, B J Rowlands, G J Tanner, Linda J Tyler-Lloyd ac L V Walton gysylltiad personol â chofnod rhif 21, "Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2022 a Thu Hwnt" a Chofnod rhif 25, "Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2022-2023 – Ymgynghoriad”.

20.

Cofnodion. pdf eicon PDF 249 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yn amodol ar Louise Gibbard yn cael ei hychwanegu'n bresennol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd Arbennig a gynhaliwyd ar 27 Medi 2021 fel cofnod cywir, yn amodol ar nodi bod y Cynghorydd Louise Gibbard yn bresennol.

21.

Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2022 a thu hwnt. pdf eicon PDF 480 KB

Penderfyniad:

Argymhellir y dylid cyfeirio'r eitem i Grŵp sy'n cynnwys Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol a Chynghorwyr eraill (a nodir gan yr Arweinwyr Grŵp), swyddogion TGCh perthnasol a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd cyn iddo gael ei ailgyflwyno i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a'r Prif Swyddog Trawsnewid adroddiad i adolygu'r "Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr -

Mai 2017 a Thu Hwnt", ac argymhellodd fersiwn ar gyfer Mai 2022 a Thu Hwnt i'r cyngor. Byddai hyn yn sicrhau bod y cynghorwyr a'r aelodau cyfetholedig yn derbyn darpariaeth TGCh sy'n addas i'w hanghenion, ac yn cydymffurfio â phenderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW).

 

Argymhellwyd y dylai'r eitem gael ei chyfeirio i grŵp sy'n cynnwys Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol a chynghorwyr eraill (a nodwyd gan yr arweinwyr grŵp), swyddogion TGCh perthnasol a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd cyn ei hailgyflwyno i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.

 

Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y byddai'n rhaid gohirio cyflwyno'i adroddiad ar gyfer y cyngor ym mis Rhagfyr tan 27 Ionawr 2022 o ganlyniad i hyn, ac y byddai'n ceisio cynnal cyfarfod ychwanegol o'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ym mis Rhagfyr/dechrau mis Ionawr.

 

Penderfynwyd cyfeirio'r eitem i grŵp sy’n cynnwys Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol a chynghorwyr eraill (a nodwyd gan yr arweinwyr grŵp), swyddogion TGCh perthnasol a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd cyn ei hailgyflwyno i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.

22.

Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth. pdf eicon PDF 453 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd, yn amodol ar ddiwygiadau.

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn amlinellu Cynllun Gweithredu ar gyfer sut gall y cyngor gefnogi'r Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth.

Programme. I argymell y Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth i'r cyngor i'w fabwysiadu.

 

Codwyd y materion canlynol ac awgrymwyd y diwygiadau canlynol:

 

·                    Diwygio Hyrwyddwyr Amrywiaeth i Lefarydd ar ran Amrywiaeth neu Arweinydd Amrywiaeth i osgoi drysu gyda'r Aelod Hyrwyddo Amrywiaeth;

·                    Cyfeirio at yr holl nodweddion gwarchodedig yn y Ddeddf Cydraddoldeb, dangos ehangder y grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

·                    Ceisio osgoi defnyddio gormod o jargon ac acronymau wrth weithio gyda'r gymuned ehangach;

·                    Roedd gan bob cynghorydd gyfrifoldeb, nid Arweinwyr Gwleidyddol yn unig.

 

Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod y Cynllun Gweithredu'n nodi'r camau gweithredu y bydd yr awdurdod yn eu cymryd. Wrth ymdrin â'r gymuned ehangach, byddai'r iaith a ddefnyddir yn fwy addas ar gyfer y gynulleidfa darged.

 

Penderfynwyd cefnogi'r Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth a'i argymell i'r cyngor i'w fabwysiadu yn amodol ar gynnwys y pwyntiau uchod (lle bo'n briodol) yn y Cynllun Gweithredu.

 

Bu'r Cynghorydd L James (Is-gadeirydd) yn llywyddu

23.

Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad Drafft. pdf eicon PDF 271 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i ystyried y Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad Drafft.

 

Esboniodd y byddai'n polisi a oedd yn esblygu, a fyddai'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd oherwydd y profiad a'r wybodaeth a fyddai'n cael eu hennill.  Byddai'r polisi hefyd yn cael ei rannu gyda'r Tîm Rheoli Corfforaethol ac arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol er mwyn ei lunio ymhellach cyn ei gyflwyno i'r cyngor yn y pen draw.

 

Penderfynwyd:

 

1)           Ailddosbarthu'r arweiniad ymddygiad safonol yn ystod cyfarfodydd rhithwir i gynghorwyr yn rheolaidd;

2)           Byddai cynghorwyr yn anfon unrhyw sylwadau eraill mewn perthynas â'r polisi ymlaen i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd neu'r swyddog monitro.

24.

Diogelwch Cynghorwyr a Chefnogaeth iddynt. pdf eicon PDF 406 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i ddarparu cyngor i'r holl gynghorwyr wrth arfer eu rôl, drwy gytuno mewn egwyddor i'r cyngor ariannu mesurau diogelwch priodol lle bydd cynghorwyr mewn risg bersonol neu dan fygythiad sylweddol.

 

Roedd hefyd yn disgwyl i waith barhau o ran dileu cyfeiriadau cartref Cynghorwyr oddi ar eu Datganiad o Fuddiannau cyhoeddedig, a dileu cyfeiriadau oddi ar yr wybodaeth am ymgeiswyr cyn Etholiad Llywodraeth Leol 2022.

 

Penderfynwyd y byddai Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd:

 

1)        Yn argymell i'r cyngor, os yw cynghorydd mewn risg bersonol neu dan fygythiad o niwed sylweddol wrth arfer ei rôl, y dylid rhoi ystyriaeth i ariannu mesurau diogelwch priodol.

2)        Argymhellir i'r cyngor y dylid rhoi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a'r Prif Swyddog Cyllid ystyried a phenderfynu ar unrhyw geisiadau am gyllid o'r fath

            Gwasanaethau Democrataidd a'r Prif Swyddog Cyllid i ystyried a

            Penderfynu ar unrhyw geisiadau am gyllid o'r fath;

3)        Dylid ailddosbarthu gwybodaeth am ddiogelwch Cynghorwyr i Gynghorwyr drwy e-bost;

4)        Dylid cynnwys digwyddiad hyfforddiant ar Ddiogelwch Cynghorwyr yn y Rhaglen Sefydlu a Hyfforddi Cynghorwyr.

25.

Adroddiad Blynyddol Draft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2022-2023 - Ymgynghoriad. pdf eicon PDF 337 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd, yn amodol ar ddiwygiad.

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i ymgynghori a rhoi sylwadau ar Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2022-2023. Byddai sylwadau Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn arwain at adroddiad y cyngor a fyddai'n cynnig ateb ffurfiol i'r IRPW.

 

Esboniodd, er bod y cyfnod ymgynghori'n dod i ben ar 26 Tachwedd 2021; roedd yr IRPW wedi rhoi estyniad o wythnos i Gyngor Abertawe, nes 3 Rhagfyr 2021.Cyhoeddir yr adroddiad terfynol gan IRPW ym mis Chwefror 2022.

 

Trafododd y Pwyllgor yr adborth negyddol yr oedd rhai Cynghorwyr wedi'i brofi mewn perthynas â hawliadau ar gyfer costau milltiredd a lwfansau TGCh, yr oeddent wedi'u cyhoeddi ar wefan y cyngor.  Fodd bynnag, gwnaethant gydnabod bod ganddynt hawl i hawlio'r lwfansau hyn ac y dylent osod esiampl i gefnogi'r "Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth", er mwyn cael gwared ar unrhyw rwystrau ar gyfer ymgeiswyr posib.

 

Penderfynwyd y byddai Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn:

 

1)           Nodi cynigion Adroddiad Blynyddol IRPW drafft 2022-2023;

2)           Cynnwys sylw yn yr ymatebion i'r IRPW ynghylch cyhoeddi costau a lwfansau TGCh Cynghorwyr a'r effaith ddilynol ar Amrywiaeth mewn Democratiaeth;

3)           Argymell yr ymateb ymgynghoriad diwygiedig i'r cyngor ar 2 Rhagfyr 2021.

26.

Cynllun Gwaith 2021-2022. pdf eicon PDF 215 KB

Penderfyniad:

Caiff cyfarfod ychwanegol ei drefnu ym mis Rhagfyr 2021

 

31 Ionawr 2022

 

Dileu:

·                    Amrywiaeth mewn Democratiaeth;

·                    Rhaglen Sefydlu a Hyfforddi Cynghorwyr 2022;

·                    E-ddysgu;

·                    Adborth gan y Cynghorydd Hyrwyddo

 

Ychwanegu:

·                    Lawlyfr y Cynghorwyr

 

21 Mawrth 2022

 

Dileu:

·                    Lawlyfr y Cynghorwyr

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2021-2022.

 

1)           Trefnu cyfarfod ychwanegol ym mis Rhagfyr 2021/Ionawr 2022 i ailystyried y Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2022 a Thu Hwnt;

2)           Diwygio'r Cynllun Gwaith fel a ganlyn:

 

31 Ionawr 2022

 

Llawlyfr Cynghorwyr.