Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2020-2021.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd W G Lewis yn Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2020-2021.

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorwyr J E Burtonshaw, M Durke, L S Gibbard, L James, S M Jones, E T Kirchner, W G Lewis, B J Rowlands, G J Tanner, L J Tyler-Lloyd ac L V Walton eu cysylltiad personol â chofnod rhif 4 "Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2021-2022 – Ymgynghoriad".

3.

Cofnodion. pdf eicon PDF 207 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Arbennig y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2019 fel cofnod cywir.

4.

Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA) 2021-2022 - Ymgynghoriad. pdf eicon PDF 339 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i ymgynghori a rhoi sylwadau ar Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2021-2022. Byddai sylwadau Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn arwain at adroddiad gan y cyngor ar 4 Tachwedd 2020 a fyddai’n cynnig ateb ffurfiol i IRPW erbyn eu dyddiad cau, sef 23 Tachwedd 2020.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi'r penderfyniadau sy'n effeithio ar Ddinas a Sir Abertawe ac ymatebion arfaethedig yn ôl yr angen.

 

Tynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd sylw at y prif feysydd newid sef y canlynol:

 

a)        Cyflog Sylfaenol yn codi £150 i £14,368;

b)        Cyflogau Dinesig ac Uwch Gyflogau yn cynyddu 1.06%;

c)        Roedd yr elfen Costau Gofal hefyd wedi'i diwygio drwy ddileu'r terfyn misol o £403.

            Disodlwyd hyn gan y canlynol:

·        Caiff costau gofal ffurfiol (wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru) eu had-dalu’n llawn.

·        Caiff costau gofal anffurfiol (heb eu cofrestru) eu had-dalu hyd at uchafswm cyfradd sy'n cyfateb i'r Cyflog Byw Go Iawn ar yr adeg yr eir i'r costau;

d)        Bydd cynnydd o £12 y diwrnod yn ffïoedd yr aelodau cyfetholedig.

 

Mynegodd llawer o Gynghorwyr bryder ynghylch codiad cyflog y Cyflog Sylfaenol oherwydd bod eraill yn cael trafferthion ariannol yn ystod pandemig Covid-19.

 

Er mwyn denu ystod fwy amrywiol o ymgeiswyr mewn etholiadau yn y dyfodol, roedd y Pwyllgor yn ymwybodol na fyddai'r cyflog yn ddigonol i lawer os hynny oedd eu hunig ffynhonnell incwm, felly roeddent yn derbyn yr argymhelliad a amlinellwyd.

 

Mewn perthynas â Chostau Gofal, nodwyd bod y nifer a oedd yn manteisio ar y lwfans hwn yn parhau i fod yn isel, er bod Pennaeth y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Gwasanaethau Democrataidd yn hyrwyddo hyn yn rheolaidd gyda Chynghorwyr. 

 

Er bod y nifer a oedd yn manteisio arno’n isel, defnyddiwyd y lwfans Cost Gofal yn bennaf ar gyfer cyfrifoldebau Gofalu am Blant, ond pwysleisiodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y gellid ei ddefnyddio hefyd ar gyfer y Cynghorwyr a'r Aelodau Cyfetholedig hynny ag unrhyw fath arall o gyfrifoldeb gofalu megis perthnasau oedrannus.

 

Penderfynwyd y dylid argymell y sylwadau a amlinellir yn yr adroddiad i'r Cyngor fel yr ymateb ffurfiol i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

 

Nodyn: Cefnogodd y Cynghorydd L V Walton y sylwadau yn yr adroddiad ond gofynnodd a allai ymatal rhag pleidleisio ar dderbyn y cynnydd mewn Cyflog Sylfaenol.

5.

Cynllun Gwaith 2020-2021. (Ar Lafar)

Cofnodion:

Gofynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd am bynciau i'w hychwanegu at gynllun gwaith y Pwyllgor. Roedd yn ymwybodol bod y 6 mis diwethaf wedi bod yn heriol i bawb a phwysleisiodd os oedd gan unrhyw Gynghorydd neu Aelod Cyfetholedig unrhyw fater yr oedd angen cymorth arno i ddelio ag ef, y dylent gysylltu â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, Cadeirydd y Gwasanaethau Democrataidd neu’r Cynghorydd Hyrwyddo ar gyfer Cymorth a Datblygiad Cynghorwyr.

 

Cododd y Cynghorwyr rai cwestiynau ynghylch Polisi Lwfansau TGCh y Cynghorwyr. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y gellid gweld gwariant cynghorwyr o dan y Polisi yn www.abertawe.gov.uk/cynghorwyr

 

Penderfynwyd cynnwys y canlynol yng Nghynllun Gwaith 2020-2021:

 

·                     Adborth rheolaidd gan y Cynghorwr Hyrwyddo ar gyfer Cefnogaeth a Datblygiad Cynghorwyr, y Cynghorydd Wendy Lewis. 

·                     Adolygiad o Lawlyfr y Cynghorwyr;

·                     Polisi Lwfansau TGCh y Cynghorwyr;

·                     eDdysgu;

·                     Hyrwyddo Costau Gofal;

·                     Rhaglen Sefydlu Cynghorwyr – o fis Mai 2022 ymlaen.