Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

5.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

6.

Cofnodion. pdf eicon PDF 204 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir.

7.

Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA) 2020-2021 - Ymgynghoriad. pdf eicon PDF 435 KB

Cofnodion:

Darparodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn gwneud sylwadau ar Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2020-2021.

 

Byddai sylwadau Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn arwain at adroddiad y cyngor a fyddai'n cynnig ateb ffurfiol i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

 

Trafododd y pwyllgor benderfyniadau perthnasol ac roeddent yn falch iawn o nodi'r penderfyniad mewn perthynas â chyhoeddi ad-daliadau costau gofal, lle'r oedd y panel wedi penderfynu y dylai awdurdodau perthnasol gyhoeddi'r cyfanswm a ad-dalwyd yn ystod y flwyddyn yn unig.

 

Penderfynwyd argymell yr adroddiad i'r cyngor ar 27 Tachwedd 2019 i'w gymeradwyo.

8.

Ad-dalu Costau Gofal. pdf eicon PDF 338 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i hyrwyddo penderfyniad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn perthynas ag ad-dalu costau gofal ac annog pobl i dderbyn yr ad-daliad drwy gyflwyno'r adroddiad hwn i'r cyngor.

 

Cytunodd y pwyllgor y gall gynorthwyo'r cynghorwyr a'r Aelodau Cyfetholedig hynny â chyfrifoldebau gofalu i ad-dalu costau gofal, a allai yn eu tro helpu i gynyddu amrywiaeth mewn democratiaeth drwy annog pobl i sefyll fel ymgeiswyr wrth i'r rhwystr i'r cyfrifoldebau gofalu gael ei chwalu.

 

Dywedon nhw er mai ychydig iawn o Gynghorwyr/Aelodau Cyfetholedig oedd yn defnyddio'r ddarpariaeth; roedd gan Abertawe'r nifer uchaf o Gynghorwyr/Aelodau Cyfetholedig yng Nghymru a oedd wedi hawlio. Fodd bynnag, roedd yn ddiddorol nodi mai'r rheini â chyfrifoldebau gofal plant yn unig oedd wedi hawlio; mae angen i'r awdurdod hyrwyddo'r ddarpariaeth fel bod y rheini â chyfrifoldebau gofalu am ddibynyddion eraill fel yr henoed, yn cael eu hannog i hawlio.

 

Gofynnwyd i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ddiwygio'r adroddiad rywfaint er mwyn tynnu sylw at rai enghreifftiau o'r hyn y gellid defnyddio Ad-daliadau Costau Gofal ar eu cyfer. Ymatebodd y byddai'n diwygio'r adroddiad cyn iddo gael ei gyflwyno i'r cyngor a hefyd bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi llunio gwybodaeth ddefnyddiol yn dwyn y teitl ‘Wyt ti wedi ystyried bod yn Gynghorydd yng Nghymru?’ Gellir gweld hyn yn:  https://www.youtube.com/watch?v=h3o0eKrX2Ds&feature=youtu.be

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y dylid nodi'r adroddiad;

2)              Cyflwyno'r adroddiad i'r cyngor er gwybodaeth.