Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Is-Gadeirydd ar Gyfer Blwyddyn Ddinesig 2019-2020.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Wendy G Lewis yn Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2019-2020.

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

3.

Cofnodion. pdf eicon PDF 99 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2019 a'u llofnodi fel cofnod cywir.

4.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd 2018-2019. pdf eicon PDF 146 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad blynyddol drafft Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y cyfnod o 24 Mai 2019 i 8 Mai 2018.

 

Amlinellodd y gwaith a wnaed gan y pwyllgor yn ystod y flwyddyn a oedd yn bennaf wedi canolbwyntio ar gyfryngau cymdeithasol, diogelwch cynghorwyr ac adolygiad o Lwfansau Band Eang a Ffôn, TGCh a Ffonau Symudol Cynghorwyr - Mai 2017 a'r Tu Hwnt.

 

Mae'r Cadeirydd yn dymuno mynegi ei ddiolch i dîm y Gwasanaethau Democrataidd a'r tîm Craffu am eu gwaith wrth gefnogi cynghorwyr yng nghyfarfodydd amrywiol y cyngor.

 

Trafododd y cyngor hefyd eitem am gynllun gwaith y dyfodol mewn perthynas â modiwlau e-ddysgu y byddai Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn ei arwain yn y flwyddyn i ddod. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Drafft Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2018-2019 a'i anfon ymlaen at gynghorwyr er gwybodaeth.