Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ethol Is-Gadeirydd ar Gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Wendy Lewis yn
Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datgeliadau o Gysylltiadau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 16 Ebrill 2018 fel cofnod cywir |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd 2017-2018. PDF 154 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad "er gwybodaeth" am
Adroddiad Blynyddol Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd 2017-2018 ar gyfer y
cyfnod 25 Mai 2017 tan 23 Mai 2018. Roedd yr adroddiad yn amlinellu gwaith y
pwyllgor yn ystod y cyfnod hwnnw. Amlygwyd diwygiad arfaethedig i ddileu
Paragraff 4 o'r adroddiad ac fe'i cymeradwywyd gan y pwyllgor. Roedd yr
wybodaeth a gafwyd ym Mharagraff 4 yr adroddiad ar gael ar-lein. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad a'r diwygiadau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i adolygu 'Polisi Lwfansau Band Eang
a Ffôn, TGCh a Ffonau Symudol Cynghorwyr - Mai 2017
a'r Tu Hwnt' a fabwysiadwyd gan y Cabinet ar 15 Rhagfyr 2016. Trafododd y
pwyllgor yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad. Roedd y trafodaethau'n
canolbwyntio ar y canlynol: ·
Cyhoeddi rhifau ffonau
symudol Aelodau'r Cabinet; ·
Gwall argraffu yn
Argymhelliad 8 - dylid mewnosod y rhif 6 rhwng 4 a'r flwyddyn ar y llinell
gyntaf; Penderfynwyd argymell y canlynol i'r Cabinet i'w
mabwysiadu (yn amodol ar y diwygiadau a amlygwyd gan y pwyllgor): -
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfryngau Cymdeithasol - Canllaw i Gynghorwyr - Ddrafft Cyntaf CLlLC. PDF 95 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i geisio sylwadau ac awgrymiadau
mewn perthynas â dogfen Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru "Cyfryngau
Cymdeithasol - Canllaw i Gynghorwyr". Atodwyd y ddogfen
ddrafft fel Atodiad A. Ar ôl
trafodaethau, gwnaed y sylwadau canlynol ar y ddogfen ddrafft, "Cyfryngau Cymdeithasol
- Canllaw i Gynghorwyr". ·
Dylid diwygio paragraff olaf y Rhagymadrodd i gynnwys y
gair 'peth' ar ôl cynnig a chyn cyngor i helpu i egluro nad yw'r
cyngor hwn yn gyflawn a bod mwy o gyngor ar gael os oes angen. ·
Dylid diwygio pennawd Paragraff 2 "Pam y byddwch o
bosib yn gweld cyfryngau cymdeithasol yn ddefnyddiol" i rywbeth sy'n llai
cyfarwyddol megis 'Pam y gall cyfryngau cymdeithasol fod yn ddefnyddiol i chi' ·
Awgrymwyd y gellid darparu mwy o gyngor o ran Facebook,
yn enwedig cyngor ar sut i reoli'ch grwpiau rheoli proffil yn ogystal â mwy o
arweiniad ar rannu pyst. ·
Tynnwyd sylw at y ffaith fod y paragraffau canlynol yn
arbennig o ddefnyddiol: - Ydych
chi’n rheoli’ch cyfryngau cymdeithasol ynteu ydyn nhw’n eich rheoli chi?; a Pharagraff
9 - 'Cadw'r ochr iawn i'r gyfraith...' Penderfynwyd rhoi gwybod i
Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am sylwadau'r pwyllgor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllun Gwaith 2018-2019. Cofnodion: Trafododd y
pwyllgor eitemau posib ar gyfer Cynllun Gwaith 2018/19. Trafododd y pwyllgor
weithio digidol a chyfyngiadau deddfwriaethol cyfredol ar fideo-gynadledda ar
gyfer pwyllgorau. Cynigiodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd hyfforddiant posib i'r pwyllgor ar y
system Modern.Gov, a dywedodd fod y cyfarfod nesaf wedi'i drefnu ar gyfer 9
Hydref 2018. |