Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau
canlynol: - Datganodd y
Cynghorwyr P M Black, N J Davies, M Durke, L S Gibbard, K M Griffiths, J A
Hale, W G Lewis, I E Mann, S Pritchard, C Richards, B J Rowlands, G J Tanner ac
L J Tyler Lloyd fudd personol yng nghofnod rhif 12 “Adroddiad Blynyddol Drafft
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) 2018-2019 –
Ymgynghoriad” gan y cyfeirir at gyflog sylfaenol cynghorwyr. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2017 fel
cofnod cywir. |
|
Cynghorydd hyfforddiant. (Cyflwyniad) Andrew Francis, Hyfforddiant
corfforaethol Cofnodion: Cefnogwyd y Rheolwr Dysgu, Hyfforddi a Datblygu
Sefydliadol, gan y Swyddog Dysgu a Datblygu Corfforaethol, a rhoddwyd trosolwg i'r pwyllgor o'r strwythur presennol a newidiadau i
ddysgu, hyfforddi a datblygu sefydliadol a chrynodeb o'r hyfforddiant e-ddysgu
sydd ar gael. Amlygodd y Cadeirydd y gofynion
hyfforddi gwahanol ar gyfer cynghorwyr o'u cymharu â swyddogion a nodwyd y
dylai hyn gael ei adlewyrchu yn yr hyfforddiant a ddarperir. Dywedodd y swyddogion y gallai'r
cyrsiau hyfforddiant gael eu llunio'n benodol ar gyfer cynghorwyr. Penderfynwyd: 1)
Nodi cynnwys y
cyflwyniad; 2)
Dosbarthu’r
cyflwyniad i'r pwyllgor. |
|
Adolygiad o Raglen Sefydlu Cynghorwyr 2017. PDF 115 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn adolygu Rhaglen Sefydlu
Cynghorwyr 2017, a drefnwyd i hysbysu cynghorwyr newydd eu hethol a'r rhai sy'n
dychwelyd o’u rolau a'r gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor. Atodwyd Rhaglen Sefydlu a Hyfforddi
Cynghorwyr 2017-2018 yn Atodiad A yr adroddiad. Trefnwyd 53 o
sesiynau hyfforddi, gan gynnwys sesiynau dilynol ar bob maes pwnc. Lle bo'n bosib, trefnwyd amser y sesiynau hyn
er mwyn galluogi pobl i fod yn bresennol yn y bore neu'r prynhawn. Gofynnwyd i ddarparwyr hyfforddiant hefyd
gyfyngu'r sesiynau i oddeutu 2 awr.
Dosbarthwyd ceisiadau am gyfarfodydd hefyd ar gyfer yr holl sesiynau ac
er bod y rhan fwyaf o'r aelodau wedi derbyn y gwahoddiadau hyn, roedd rhai wedi
derbyn ond heb fynd i'r hyfforddiant.
Arweiniodd hyn at bresenoldeb isel ar gyfer rhai o'r sesiynau, y gellid
bod wedi'u canslo neu eu haildrefnu ar gyfer amser mwy cyfleus i'r cynghorwyr
a'r swyddogion. Fel rhan o'r
rhaglen, cynhaliwyd digwyddiad Marchnad ar 11 Mai 2017 gyda 39 o gynghorwyr yn
bresennol a chafwyd llawer o adborth cadarnhaol. Yn y digwyddiad, rhoddwyd cyflwyniadau gan y
Tîm Rheoli Corfforaethol i'r cynghorwyr ac roeddent yn gallu edrych ar y
stondinau yn Neuadd Siôr, a oedd yn cynnwys 21 o feysydd gwasanaeth gwahanol
o'r Adrannau Lleoedd, Adnoddau a Phobl.
Mae rhaglen digwyddiad y Farchnad yn Atodiad B yr adroddiad. Darparwyd rhestr o
sesiynau hyfforddiant gorfodol i gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig a nodwyd y
disgwylir i bob cynghorydd fynd i bob un o'r meysydd hyfforddi gorfodol yn
ystod tymor eu swydd. Yn ogystal, roedd
angen hyfforddiant arbenigol penodol ar gyfer bod yn aelod o bwyllgorau
penodol. Nodwyd hefyd y
byddai sesiynau hyfforddiant ychwanegol yn cael eu darparu yn y flwyddyn newydd
ac os na fydd cynghorwyr yn mynd i'r sesiynau hynny, byddai Pennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd yn darparu rhestr o'r rhai nad ydynt yn mynychu i
Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol perthnasol er mwyn annog presenoldeb. Gofynnwyd i'r
pwyllgor ddarparu adborth ar y Rhaglen Sefydlu Cynghorwyr. Trafodwyd y materion canlynol: ·
Darparu
hyfforddiant e-ddysgu a fyddai'n diwallu anghenion hyfforddi cynghorwyr; ·
Gwahaniaethu
rhwng gofynion hyfforddi cynghorwyr a swyddogion, gan gydnabod gwybodaeth
cynghorwyr; ·
Defnyddio
lleoliad arall i Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas; ·
Cyfyngu
hyfforddiant cynghorwyr i 90 munud er mwyn gwella presenoldeb; ·
Darparu
taflenni adborth ym mhob sesiwn hyfforddi; ·
Prif
Chwipiau'n cael gwybod am bresenoldeb mewn hyfforddiant yn rheolaidd; ·
Hyfforddiant ynghylch rheolau dadlau, Cyfansoddiad y
Cyngor, rheoli gwaith achos a diogelu data; ·
Cynnal digwyddiad Marchnad arall ·
Cyflwyno
gwahanol opsiynau/ddulliau hyfforddi; ·
Nodi
sgiliau cynghorwyr; ·
Cyfyngu
ar yr hyfforddiant cychwynnol a roddir pan fydd cynghorwyr yn cael eu hethol am
y tro cyntaf; ·
Y
rhaglen sefydlu'n rhy hir; ·
Ailadrodd
rhai pynciau hyfforddi. Penderfynwyd: 1)
Nodi
cynnwys yr adroddiad a'r adborth; 2)
Y
bydd y Swyddog Monitro’n dosbarthu nodyn briffio i'r holl gynghorwyr ynghylch
rheolau dadlau a Chyfansoddiad y Cyngor; 3)
Cyfyngu
sesiynau hyfforddi i 90 munud; 4)
Darparu
ffurflenni adborth ar gyfer sesiynau hyfforddi yn y dyfodol. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad am Adroddiad
Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2018-2019, a
oedd yn nodi'r penderfyniadau a oedd yn effeithio ar Ddinas a Sir Abertawe a'r
ymatebion arfaethedig. Byddai'r sylwadau'n cael eu defnyddio i lunio
adroddiad i'r cyngor a rhoddir ymateb ffurfiol i'r IRPW erbyn y dyddiad cau sef
29 Tachwedd 2017. Bydd adroddiad
terfynol yr IRPW yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2018. Gofynnodd y pwyllgor fod yr ymateb yn cynnwys cyfeiriad at y ffaith na
ddylai ad-dalu costau gofal fod yn destun treth ac yswiriant gwladol. Penderfynwyd: 1)
Ychwanegu
sylwadau at yr ymateb ynghylch trethiant yn cael ei ychwanegu at gostau gofal; 2)
Argymell
bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r cyngor i'w gymeradwyo. |
|
Adolygiad o Lawlyfr y Cynghorwyr. PDF 162 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn nodi adolygiad o Lawlyfr y
Cynghorwyr er mwyn symleiddio ei gynnwys a symud tuag at fersiwn ddigidol yn
unig. Wrth adolygu, dilëwyd
elfennau ailadroddus yn y Llawlyfr, a symleiddiwyd ei gynnwys er mwyn ei wneud
yn fwy hwylus i'w ddefnyddio gan gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig fel ei
gilydd. Roedd hi hefyd yn fwriad troi'r
ddogfen yn fersiwn ar-lein. Dywedwyd bod Llawlyfr
presennol y cynghorwyr wedi'i rannu'n bedair rhan. Roedd yr adroddiad wedi adolygu Adran A
“Gwybodaeth Ariannol” ac Adran Ch
"Disgrifiadau Swydd a Manylebau Person". Byddai Adrannau B "Gwasanaethau Cefnogi"
ac C "Protocolau" yn cael eu hadolygu'n hwyrach. Penderfynwyd: 1)
Bod yr adroddiad yn cael
ei gyflwyno i'r cyngor er mwyn ei gymeradwyo; 2)
Cyflwyno rhannau
ychwanegol o'r llawlyfr i'r pwyllgor ymhen amser. |
|
Cynllun Gwaith 2017-2018. Cofnodion: Dywedodd Pennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd fod dyletswydd arno i gynnal "Arolwg Amser
Cyfarfodydd y Cyngor" yr oedd yn bwriadu ei ddosbarthu'n hwyrach yn
2017. Ychwanegodd ei bod hi'n bwysig bod
yr awdurdod yn amrywiol ac mor agored â phosib i anghenion y cynghorwyr hynny y
mae ganddynt gyfrifoldebau gofalu ac ymrwymiadau gwaith. Gofynnwyd i
gynghorwyr ddarparu adborth ynghylch y gefnogaeth y mae ei hangen arnynt i
ymgymryd â'u rôl. Byddai arolwg yn cael
ei lunio i gynorthwyo gyda hyn. Byddai adolygu
Llawlyfr y Cynghorwyr (Adrannau B ac C) yn cael ei ychwanegu at y cynllun
gwaith. PENDERFYNWYD
y byddai'r cynllun gwaith
yn cael ei nodi. |