Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Is-Gadeirydd Ar Gyfer Blwyddyn Ddinesig 2017 - 2018.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Wendy Lewis yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017-2018.

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

3.

Cofnodion. pdf eicon PDF 56 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod

cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2016 fel cofnod cywir.

4.

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Trosolwg. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd drosolwg o rôl Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ar lafar oherwydd bod sawl cynghorydd newydd eu hethol ar y pwyllgor.

 

Esboniodd fod ei rôl fel Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a rôl Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd wedi'u ffurfio o ganlyniad i Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 ac amlinellodd ofynion pob rôl.

 

Canolbwyntiodd y trafodaethau ar y materion canlynol:

 

·       Hyfforddiant a datblygiad, gan gynnwys hyfforddiant sefydlu;

·       Cefnogaeth ar gyfer cynghorwyr;

·       Gofynion/materion TG;

·       Llawlyfr i Gynghorwyr;

·       Adroddiadau blynyddol;

·       Bil Democratiaeth Leol;

·       Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol;

·       Y pwyllgor yn gweithredu fel cynrychiolydd ar gyfer pob cynghorydd;

·       Rôl Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â Throsolwg a Chraffu;

·       Modern.gov, gan gynnwys defnydd o'r ap.

 

PENDERFYNWYD cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

5.

Adroddiad Blynyddol Y Gwasanaethau Democrataidd 2016- 2017. pdf eicon PDF 118 KB

Cofnodion:

Darparodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y cyfnod o 19 Mai 2016 i 24 Mai 2017.  Amlinellodd yr adroddiad waith y pwyllgor yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

Amlinellodd y gwaith y mae'r pwyllgor wedi'i wneud dros y flwyddyn ddinesig flaenorol, gan gynnwys:

 

·       Sgiliau TGCh Cynghorwyr - mis Mai 2017 a'r tu hwnt;

·       Cynghorwyr - Hunanwasanaeth;

·       Modern.gov, gan gynnwys defnydd gan y Tîm Craffu;

·       Lwfansau band eang a ffôn, TGCh a ffonau symudol cynghorwyr - mis Mai 2017 a'r tu hwnt;

·       Adroddiad Blynyddol Drafft 2017-2018 Panel Annibynnol Cymru - Ymgynghoriad;

·       Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd 2015-2016.

 

Amlinellwyd unwaith eto bod Adroddiadau Blynyddol y Cynghorwyr wedi'u cwblhau.  Eleni, y cynghorwyr sy'n dychwelyd yw'r unig rai a fydd yn gorfod cwblhau Adroddiad Blynyddol mewn perthynas â'u gweithgareddau a gynhaliwyd yn ystod 2016-2017.  Anogwyd y cynghorwyr unwaith eto i gwblhau eu Hadroddiadau Blynyddol yn ystod yr wythnosau nesaf.  Byddai'r adroddiadau hyn yn cael eu cyhoeddi ar wefan y cyngor.

 

Byddai Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd yn cael ei gyflwyno i'r cyngor ar 24 Awst 2017.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)              Nodi cynnwys yr adroddiad.

2)              Addasu'r geiriad ym mharagraff 1.1 y Rhagair yn unol â hynny cyn ei gyflwyno i'r cyngor.

6.

Cynllun Gwaith.

Cofnodion:

Darparodd Cadeirydd a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd bynciau ar gyfer cynllun gwaith 2017-2018 fel a ganlyn:

 

·       Arolygon mewn perthynas â:

o   TGCH;

o   Cefnogaeth ar gyfer cynghorwyr;

o   Hyfforddiant a datblygiad;

o   Amser cyfarfodydd (gofyniad Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011).

·       Adolygiad o Lawlyfr y Cynghorwyr;

·       Adroddiadau Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol;

 

Anogodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y cynghorwyr perthnasol a'r aelodau cyfetholedig i ddefnyddio'r gwasanaeth Ad-dalu Costau Gofal a oedd ar gael ar gyfer cynghorwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu. Roedd cyfanswm o £403 y mis ar gael.

 

Amlygwyd y ffaith nad yw y cynghorwyr yn gallu cael mynediad i wybodaeth benodol o bell ar hyn o bryd.  Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wybod i'r pwyllgor am ficrosafle'r cynghorwyr sydd wedi'i greu er mwyn storio peth o'r wybodaeth ddefnyddiol sydd ei hangen ar gynghorwyr.  Gellir cael mynediad i'r wybodaeth drwy SharePoint yn Office 365.  Byddai manylion ychwanegol yn cael eu rhannu maes o law.

 

Yn ogystal, trafodwyd System Rheoli Gwaith Achos y Cynghorwyr (CCMS). 

 

PENDERFYNWYD:

 

1)              Gwahodd y Rheolwr Hyfforddiant i'r cyfarfod nesaf a drefnir ar gyfer 31 Hydref 2017;

2)              Gwahodd Pennaeth TG i gyfarfod yn y dyfodol er mwyn trafod materion TG.

7.

Dyddiadau Ac Amserau Cyfarfodydd Yn Y Dyfodol.

Cofnodion:

Datganodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ei fod wedi derbyn cais i amrywio dyddiadau rhai o gyfarfodydd y dyfodol am eu bod wedi'u trefnu ar yr un dyddiadau â chyfarfodydd grŵp gwleidyddol.

 

PENDERFYNWYD y bydd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn aildrefnu'r cyfarfodydd dan sylw.