Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2024-2025.

Penderfyniad:

Etholwyd y Cynghorydd W G Lewis yn Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol:

 

1)             Y Cynghorydd W G Lewis yn Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2024-2025.

2.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

3.

Cofnodion. pdf eicon PDF 110 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2024 fel cofnod cywir.

4.

Adroddiadau Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd 2023-2024. pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Darparodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2023-2024.  Amlinellodd yr adroddiad waith y Pwyllgor yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

Penderfynwyd anfon Adroddiad Blynyddol Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2023-2024 ymlaen at y cyngor er gwybodaeth.

5.

Cynllun Gwaith 2024-2025. (Llafar)

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd ychwanegu’r eitemau canlynol at y Cynllun Gwaith:

 

·                Adroddiad Blynyddol y Cynghorwyr.

·                Rhestr o ddyddiadau hyfforddiant.

·                Digwyddiadau Cyfarfod a Thrafod cyn cyfarfodydd y cyngor.