Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2023-2024. Penderfyniad: Etholwyd y Cynghorydd W
G Lewis yn Is-Gadeirydd. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd W G Lewis yn
Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2023-2024. Y Cynghorydd W G Lewis (Is-Gadeirydd) fu'n
llywyddu |
|
Cydymdeimladau. Cofnodion: Ar ran y Pwyllgor,
mynegodd y Cynghorydd W G Lewis ei chydymdeimladau ar gyfer marwolaeth
ddiweddar Helen, merch y Cynghorydd Lynda James. Safodd y Pwyllgor fel arwydd o gydymdeimlad a
pharch. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2022 fel cofnod
cywir. |
|
Beth yw Swyddogaeth y Gwasanaethau Democrataidd? (Er gwybodaeth) PDF 131 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad "Er Gwybodaeth" i roi
cyd-destun i Swyddogaeth y Gwasanaethau Democrataidd, Pennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd a Phwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd. |
|
Adroddiadau Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd 2022-2023. PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Darparodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer Blwyddyn
Ddinesig 2022-2023. Amlinellodd yr adroddiad
waith y Pwyllgor yn ystod y cyfnod hwnnw. Penderfynwyd anfon Adroddiad Blynyddol Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer 2022-2023 ymlaen at y cyngor er gwybodaeth. |
|
Adolygu'r Arweiniad ar gyfer Mynychu Cyfarfodydd o Bell. PDF 142 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Darparodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i adolygu'r Arweiniad ar gyfer
Cyfarfodydd Aml-leoliad. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
arweiniad; 2)
Anfon
unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella ymlaen i Bennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd; 3) Rhannu'r arweiniad â'r holl Gynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig. |
|
Adroddiad Blynyddol i Gynghorwyr. PDF 309 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Ail-ddosberthir ffurflenni i'r holl
gynghorwyr. Cofnodion: Penderfynwyd: 1)
Nodi'r adroddiad; 2)
Ailddosbarthu'r
ffurflenni templed i'r holl Gynghorwyr. |
|
Cynllun Gwaith 2023-2024. (Llafar) Penderfyniad: Anfonir testunau drwy e-bost at Huw Evans. Cofnodion: Gofynnodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd am bynciau ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol.
Penderfynwyd: 1)
Darparu
arddangosiad o'r ap Modern.gov yn y cyfarfod nesaf; 2)
Y byddai
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn ymchwilio i'r posibilrwydd o gynnal
digwyddiad Maes Gwasanaeth/Adrannol ar ffurf marchnad ar adegau drwy gydol y
flwyddyn. Gellid cynnal y digwyddiad yn y cyntedd y tu allan i Siambr y Cyngor,
Neuadd y Ddinas cyn cyfarfodydd y cyngor; 3) Byddai unrhyw bynciau eraill yn cael eu hanfon drwy e-bost at Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd. |