Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganodd yr holl Gynghorwyr a oedd yn bresennol gysylltiad personol â chofnod 12, “Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2023 – 2024 – Ymgynghoriad.” Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Datganodd y Cynghorwyr P N Bentu, A Davis, M Durke, K M Griffiths, J A Hale, L James, M Jones, E T Kirchner, W G Lewis, J D McGettrick ac L V Walton gysylltiadau personol â Chofnod Rhif 12 "Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2023-2024 - Ymgynghoriad”. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2022 fel
cofnod cywir. |
|
Amseriad cyfarfodydd y cyngor - Arolwg. PDF 263 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn trafod Amser
Cyfarfodydd y Cyngor - Arolwg. Trafododd y Pwyllgor yr arolwg a chynigiodd ei fod yn cael ei aildrefnu cyn iddo gael ei
ddosbarthu i'r Cynghorwyr. Penderfynwyd cymeradwyo'r arolwg Amser Cyfarfodydd yn amodol ar aildrefnu'r cwestiynau. |
|
Adroddiad Blynyddol i Gynghorwyr. PDF 309 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i hysbysu'r Cynghorwyr o'u hawl
i lunio Adroddiad Blynyddol y Cynghorwyr. Penderfynwyd nodi'r adroddiad a'i ddosbarthu i'r holl Gynghorwyr. |
|
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i ymgynghori â'r Pwyllgor a rhoi
sylwadau arno, ac iddynt roi sylwadau ar Adroddiad Blynyddol Drafft Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2023-2024. Byddai sylwadau Pwyllgor y Gwasanaethau
Democrataidd yn arwain at adroddiad y cyngor a fyddai'n cynnig ateb ffurfiol i
Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Penderfynwyd y byddai Pwyllgor y Gwasanaethau
Democrataidd yn: 1) Nodi cynigion Adroddiad Blynyddol Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2022-2023; 2) Argymell yr ymateb ymgynghoriad diwygiedig i'r cyngor ar 1 Rhagfyr 2022. |
|
Cynllun Gwaith 2022-2023. (Llafar) Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Amlinellodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y Cynllun Gwaith fel a ganlyn: 1)
Ailedrych ar y Rhaglen Sefydlu (i gynnwys ystadegau
presenoldeb); 2)
Rhaglen Hyfforddiant i Gynghorwyr (y tu hwnt i sefydlu). Penderfynwyd y dylid nodi'r cynllun gwaith. |