Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-2023. Penderfyniad: Etholwyd y Cynghorydd Wendy Lewis. Cofnodion: Penderfynwyd
ethol y Cynghorydd Wendy Lewis yn Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig
2022-2023. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor
y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2022 fel cofnod cywir. |
|
Beth yw Swyddogaeth y Gwasanaethau Democrataidd? (Er gwybodaeth) PDF 214 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad "Er Gwybodaeth" i roi
cyd-destun i Swyddogaeth y Gwasanaethau Democrataidd, Pennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd a Phwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd. |
|
Adroddiadau Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd 2021-2022. PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Darparodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd Adroddiad Blynyddol 2021-2022 i Bwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd ar gyfer y cyfnod rhwng 20 Mai 2021 a 23 Mai
2022. Roedd yr adroddiad yn amlinellu gwaith
Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn ystod y cyfnod hwnnw. Penderfynwyd anfon yr adroddiad ymlaen i'r cyngor er
gwybodaeth. |
|
Adolygiad o Raglen Sefydlu a Hyfforddi Cynghorwyr 2022. PDF 256 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd yr adborth. Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd
adroddiad er mwyn adolygu Rhaglen Sefydlu a Hyfforddi Cynghorwyr 2022. Amlinellodd
Raglen Sefydlu a Hyfforddi Cynghorwyr 2022 a oedd wedi'i hamlinellu yn Atodiad
A, ynghyd â manylion Digwyddiad y Farchnadle, a
amlinellwyd yn Atodiad B. Roedd sylwadau
gan y Pwyllgor yn gefnogol yn bennaf, ac er bod y rhaglen yn un brysur iawn,
cydnabuwyd bod angen darparu hyfforddiant cyn gynted ag y caiff Cynghorwyr eu
hethol. Roedd sylwadau
cadarnhaol yn canolbwyntio’n bennaf ar Ddigwyddiad y Farchnadle,
yr ystyriwyd ei fod yn llwyddiant ysgubol, gyda nifer yn awgrymu y dylid
ymestyn amser y digwyddiad hwn neu drefnu sesiwn arall. Mewn perthynas â'r
rhaglen hyfforddi, roedd hi'n dda bod cyflwyniadau wedi'u dosbarthu’n dilyn y
sesiynau er mwyn i Gynghorwyr gyfeirio yn ôl atynt a darparwyd o leiaf 2 sesiwn
ar ddiwrnodau/amserau gwahanol. Roedd sylwadau
negyddol yn cynnwys y ffaith bod rhai o'r sesiynau'n rhy hir, dylai'r sesiynau
fod yn 60-90 munud o hyd ar y mwyaf. Darparwyd y rhan fwyaf o sesiynau trwy
PowerPoint, gan nad oedd llawer o opsiynau eraill. Byddai sesiynau mwy
rhyngweithiol yn fwy diddorol. Roedd rhai o'r sesiynau'n rhy gymhleth, heb
ddigon o'r elfennau sylfaenol yn cael eu darparu. Yn aml roedd sleidiau'n cael
eu darllen yn uchel gan swyddogion fel eu bod yn rhannu gwybodaeth yn hytrach
nag yn hyfforddi. Roedd sylwadau
eraill yn cynnwys cais am sesiwn loywi ar y protocol Cynllunio rhag Argyfyngau
o ran rôl Cynghorwyr mewn argyfwng. Byddai gwybodaeth ymarferol ar gyfer
aelodau newydd wedi bod yn ddefnyddiol e.e. mynd i gyfarfodydd am y tro cyntaf,
y broses o fynd drwy agenda, sut i bleidleisio, system y cabinet, sut i reoli
gwaith achos. Fodd bynnag, cydnabuwyd nad oedd arbenigwyr pwnc yn hyfforddwyr. Roedd y Pwyllgor
wedi siomi nad oedd yr holl Gynghorwyr yn bresennol ar gyfer yr hyfforddiant a
ddarparwyd, gan gynnwys hyfforddiant gorfodol. Esboniodd Pennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021
bellach yn gosod dyletswydd ar Arweinwyr Grŵp i sicrhau eu bod yn monitro
presenoldeb Cynghorwyr mewn hyfforddiant. Byddai adroddiad pellach gyda rhagor
o fanylion yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod nesaf Pwyllgor y Gwasanaethau
Democrataidd. Byddai Pennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd yn cysylltu â Chynghorwyr i gadarnhau a fyddai ganddynt
ddiddordeb mewn mynd i sesiwn hyfforddiant sylfaenol ar Bwyllgorau y gellid ei
ddarparu ar sail sesiynau grŵp neu rai 1 i 1. Byddai Digwyddiadau Marchnadle amgen hefyd yn cael eu hystyried, megis sesiynau
adrannol neu dîm. Penderfynwyd defnyddio'r sylwadau uchod er mwyn llunio'r Rhaglen Sefydlu nesaf ar gyfer 2027. |
|
Cynllun Gwaith 2022-2023. (Llafar) Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Roedd Pennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd yn ceisio eitemau i'r Pwyllgor eu hystyried yn ystod
Blwyddyn Ddinesig 2022-2023: Awgrymwyd yr
eitemau canlynol: Ø
Hyfforddiant
i Gynghorwyr (y tu hwnt i sefydlu); Ø
Ailedrych
ar y Rhaglen Sefydlu - presenoldeb/gwersi a ddysgwyd; Ø
Cyfarfodydd
Aml-leoliad; Ø
Arolwg
Amserau Cyfarfodydd - byddai hwn yn cael ei ddosbarthu i'r holl Gynghorwyr ym
mis Ionawr 2023; Penderfynwyd cynnwys yr eitemau canlynol yn y Cynllun
Gwaith ar gyfer 2022-2023: Ø
Hyfforddiant
i Gynghorwyr (y tu hwnt i sefydlu); Ø
Ailedrych
ar y Rhaglen Sefydlu - presenoldeb/gwersi a ddysgwyd; Ø
Cyfarfodydd
Aml-leoliad; Ø
Arolwg Amserau Cyfarfodydd. |