Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Penderfynwyd cymeradwyo a
llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd
ar 10 Ionawr 2022 fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a
llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd
ar 10 Ionawr 2022 fel cofnod cywir. |
|
Adolygiad o Lawlyfr y Cynghorwyr - Disgrifiadau Rôl a Manylebau Person. PDF 307 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd: - 1)
Y
byddai "Disgrifiadau Rôl Aelodau Fframwaith a Manylebau Person Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) - Mehefin 2021" a Disgrifiadau Rôl penodol
Cyngor Abertawe fel y'u nodir yn Atodiadau A a B yn
cael eu hargymell yn ôl eu trefn i'r cyngor i'w mabwysiadu fel Adran D o
Lawlyfr y Cynghorwyr; 2) Bydd yr awdurdod yn parhau i gyd-fynd â
Fframwaith CLlLC pe bai'n cael ei ddiwygio yn y dyfodol. Cofnodion: Cyflwynodd Huw
Evans, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, adroddiad a oedd yn ceisio adolygu
Adran D o Lawlyfr y Cynghorwyr – Disgrifiadau Rôl a Manylebau Person ac
argymell y fersiwn ddiwygiedig i'w mabwysiadu gan y cyngor. Nod yr adolygiad
oedd sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir ac yn adlewyrchu unrhyw drefniadau
gweithio newydd. Esboniwyd bod
Adran D yn cyd-fynd yn bennaf â Fframwaith Disgrifiadau Rôl Aelodau a Manylebau
Person CLlLC ar hyn o bryd – Mehefin 2021. Fodd bynnag, roedd nifer o gofnodion
sy'n benodol i Gyngor Abertawe fel a ganlyn: i) Rolau Swyddi
Cynghorwyr ii) Disgrifiad o
Rôl Cynullydd Craffu iii) Hyrwyddwyr
Cydraddoldeb yr Aelodau - Disgrifiad Rôl iv) Cadeirydd y
Pwyllgor Datblygu Polisi Cynigiwyd y dylid
disodli'r Adran D bresennol yn ei chyfanrwydd gyda Fframwaith Disgrifiadau Rôl
Aelodau a Manylebau Person CLlLC fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad.
Cynigiwyd hefyd fod yr awdurdod yn parhau i gyd-fynd â Fframwaith CLlLC pe
bai'n cael ei ddiwygio yn y dyfodol. Ychwanegu
cofnodion sy’n benodol i Gyngor Abertawe fel y'u hamlinellir yn Atodiad B yr
adroddiad at y rhai yn Atodiad A i ffurfio Adran D newydd Llawlyfr y
Cynghorwyr. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Nid
oedd y manylion a ddarparwyd yn cael eu cynnwys yn yr holl ddisgrifiadau swydd
a sut yr oedd CLlLC wedi ymgynghori'n eang ar y disgrifiadau swydd a gallant
ddiwygio'r manylion ymhellach yn y dyfodol; ·
Y
ffaith mai diben y disgrifiadau swydd oedd rhoi gwell dealltwriaeth i ddarpar
Gynghorwyr o'r rolau; ·
Dylid
diwygio rôl yr Hyrwyddwr Cydraddoldeb i rôl yr Hyrwyddwr Amrywiaeth; ·
Y
weithdrefn i ethol Cynullwyr Craffu. Penderfynwyd: - 1)
Y
byddai "Disgrifiadau Rôl Aelodau Fframwaith a Manylebau Person Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) - Mehefin 2021" a Disgrifiadau Rôl penodol
Cyngor Abertawe fel y'u nodir yn Atodiadau A a B yn
cael eu hargymell yn ôl eu trefn i'r cyngor i'w mabwysiadu fel Adran D o
Lawlyfr y Cynghorwyr; 2) Bydd yr awdurdod yn parhau i gyd-fynd â
Fframwaith CLlLC pe bai'n cael ei ddiwygio yn y dyfodol. |
|
Cynllun Gwaith 2021-2022. PDF 217 KB Penderfyniad: Nodydd Cofnodion: Eglurodd Pennaeth
y Gwasanaethau Democrataidd, er bod cyfarfod arall wedi'i drefnu ar gyfer 21
Mawrth 2022, nad oedd unrhyw eitemau i'w trafod ar hyn o bryd. Ychwanegodd na
fyddai'r cyfarfod yn cael ei ganslo eto ond mae'n debyg y byddai'n cael ei
ganslo yn nes at ddyddiad y cyfarfod. Diolchodd y
Cynghorwyr nad oeddent yn sefyll i gael eu hailethol i'r Pwyllgor am y gwaith
pwysig yr oedd wedi'i gwblhau. |