Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

27.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddion canlynol:

 

Datganodd y Cynghorwyr J E Burtonshaw, M Durke, J A Hale, L James, M Jones, E J Kirchner, B J Rowlands, L J Tyler-Lloyd ac L V Walton gysylltiad personol â Chofnod 29, “Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr – Mai 2022 a Thu Hwnt.”

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddion canlynol:

 

Datganodd y Cynghorwyr J E Burtonshaw, M Durke, J A Hale, L James, M Jones, E J Kirchner, B J Rowlands, L J Tyler-Lloyd ac L V Walton gysylltiad personol â Chofnod 29, “Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr – Mai 2022 a Thu Hwnt.”

28.

Cofnodion. pdf eicon PDF 239 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2021 fel cofnod cywir.

29.

Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2022 a thu hwnt. pdf eicon PDF 564 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd, yn amodol ar ddiwygiadau.

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Phennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol adroddiad ar y cyd i adolygu "Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2017 a thu hwnt" ac argymell fersiwn Mai 2022 a thu hwnt i'r cyngor. Byddai hyn yn sicrhau bod y cynghorwyr a'r aelodau cyfetholedig yn derbyn darpariaeth TGCh sy'n addas ar gyfer eu hanghenion, ac yn cydymffurfio â phenderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA).

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)

Bydd Pennaeth y Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol yn adolygu Lwfansau TGCh y Cynghorwyr ac yn sicrhau eu bod yn addas ar gyfer Mai 2022 a thu hwnt a bod y lwfansau diwygiedig yn cael eu cynnwys ym mhroses y gyllideb.

 

2)

Cytuno ar y Polisi Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2022 a thu hwnt a adolygwyd ac a ddiwygiwyd a'i argymell i'r cyngor ei fabwysiadu'n amodol ar y diwygiad(au) canlynol i Atodiad A:

 

Diwygio Paragraffau 4.2(a) a 5.1(a) i nodi "Maent yn dangos tystiolaeth o'u data a'u cysylltiad ffôn yn eu cartref ddwywaith yn ystod cyfnod swydd o 5 mlynedd".

 

3)

Bydd Pennaeth y Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol yn darparu arweiniad defnyddiol "Arferion Da" i gynghorwyr, a fydd yn esbonio pynciau megis copïau wrth gefn, cysoni, etc.

 

4)

Dylid ychwanegu hyfforddiant meddalwedd modern.gov i Raglen Sefydlu'r Cynghorwyr.

 

30.

Adolygiad o Lawlyfr y Cynghorwyr pdf eicon PDF 310 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd, yn amodol ar ddiwygiadau.

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i adolygu adrannau A-C y Llawlyfr i Gynghorwyr ac i argymell y fersiwn ddiwygiedig i'r cyngor ei mabwysiadu.

 

Penderfynwyd argymell y diwygiadau a gynigiwyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i atodiadau'r adroddiad i'r cyngor eu mabwysiadu'n amodol ar y diwygiadau ychwanegol canlynol:

 

Atodiad B, paragraff 9 - nodi "Swyddfa’r Cabinet/Tîm y Gwasanaethau Democrataidd" yn lle "y ddau dîm".

31.

Cynllun Gwaith 2021-2022. pdf eicon PDF 215 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr oedd yn rhagweld y byddai mewn sefyllfa i gyflwyno eitemau pellach yn y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 21 Mawrth 2022 er nad oedd unrhyw eitemau wedi'u nodi ar gyfer y cyfarfod nesaf ar hyn o bryd.