Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

12.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

13.

Cofnodion. pdf eicon PDF 230 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2021 fel cofnod cywir.

14.

Canlyniadau Holiadur yr Aelodau ar Bresenoldeb o Bell. pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i roi adborth i'r pwyllgor yn dilyn dosbarthu holiadur i aelodau a swyddogion ar bresenoldeb o bell.

 

Dosbarthwyd yr holiadur i Gynghorwyr, y Tîm Rheoli Corfforaethol a Phenaethiaid Gwasanaeth ar 9 Awst.  Derbyniwyd cyfanswm o 42 o ymatebion erbyn y dyddiad cau, sef 30 Awst 2021, ac roedd yn cynnwys ymatebion gan 32 o gynghorwyr a 10 swyddog.

 

Roedd 92.9% o'r rhai a ymatebodd o'r farn bod y cyfarfodydd o bell presennol yn gweithio'n dda, gyda 42.9% o'r farn eu bod yn gweithio'n dda iawn.

 

Aeth y Swyddog Monitro ymlaen i amlinellu'r manteision a'r anfanteision a godwyd, a fyddai'n cael eu hystyried wrth ddatblygu'r polisi hybrid/aml-leoliad ar gyfer cynghorwyr a swyddogion.

 

Penderfynwyd nodi ymateb cynghorwyr a swyddogion i'r holiadur a atodwyd yn Atodiad A.

15.

Rhaglen Sefydlu a Hyfforddi Cynghorwyr 2022. pdf eicon PDF 345 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd, yn amodol ar ddiwygiadau.

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i ystyried Rhaglen Sefydlu a Hyfforddi Cynghorwyr ddrafft 2022.

 

Sefydlodd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd weithgor ar 19 Gorffennaf 2021 i ystyried Rhaglen Sefydlu a Hyfforddi Cynghorwyr 2022.  Cyfarfu'r Gweithgor ar 26 Awst ac atodwyd y nodiadau yn Atodiad A.  Tynnodd sylw hefyd at sylwadau ychwanegol ym mharagraff 2.4 o'r adroddiad a dderbyniwyd.

 

Gofynnwyd i'r pwyllgor ystyried y rhaglen ddrafft, a atodwyd yn Atodiad B ac i nodi unrhyw hyfforddiant pellach a ddylai fod yn rhan o'r rhaglen yn ogystal â nodi pa elfennau o'r rhaglen ddylai fod yn orfodol.

 

Dylid nodi y byddai eitem 60 yn Atodiad B yn cael ei diwygio i "Trechu Tlodi".

 

Nid oedd unrhyw eitemau ychwanegol yr oedd y wyllgor am eu cynnwys.

 

Awgrymodd y pwyllgor y dylid ystyried y pynciau canlynol yn orfodol:

 

Ø    Lwfansau Cynghorwyr a Phanel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA), Hunanwasanaeth Cynghorwyr, Hawliadau am Deithio, Lwfansau Cynnal a Llawlyfr Cynghorwyr;

Ø    Cyfathrebu a'r Cyfryngau Cymdeithasol;

Ø    Cydraddoldeb/Amrywiaeth/Y Gymraeg

Ø    Gweithdy Sefydlu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i Gynghorwyr

 

Penderfynwyd y bydd y pwyllgor yn:

 

1)            Cytuno y dylid ystyried bod yr elfennau canlynol o'r rhaglen yn orfodol;

·                Lwfansau Cynghorwyr a Phanel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA), Hunanwasanaeth Cynghorwyr, Hawliadau am Deithio, Lwfansau Cynnal a Llawlyfr Cynghorwyr;

·                Cyfathrebu a'r Cyfryngau Cymdeithasol;

·                Cydraddoldeb/Amrywiaeth/Y Gymraeg;

·                Gweithdy Sefydlu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i Gynghorwyr.

2)            Argymell y dylai'r cyngor fabwysiadu Rhaglen Sefydlu a Hyfforddi Cynghorwyr ddrafft 2022 gyda'r diwygiadau uchod ar 4 Tachwedd 2021.

16.

Arweiniad statudol interim ar gyfarfodydd aml-leoliad. pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i ystyried y Canllawiau Statudol Dros Dro ar gyfer Cyfarfodydd Aml-Leoliad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a oedd ynghlwm yn Atodiad A.

 

Ar y cyd â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, rhaid i'r awdurdod nodi manylion ei drefniadau ar gyfer Cyfarfodydd Aml-Leoliad.  Rhaid i'r trefniadau hyn gael eu harwain gan nifer o egwyddorion cyffredinol.  Byddai Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn paratoi polisi i'r pwyllgor ei ystyried a hefyd ystyried a fyddai angen gwneud unrhyw ddiwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Nodi'r Canllawiau Statudol Dros Dro ar gyfer Cyfarfodydd Aml-Leoliad;

2)            Bydd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn paratoi Polisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad.

17.

Adroddiadau Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd, 2019-2020 a 2020-2021. pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad "er gwybodaeth" i ddarparu Adroddiadau Blynyddol 2019-2020 a 2020-2021 i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.  Roedd yr adroddiadau'n amlinellu gwaith y pwyllgor yn ystod y cyfnodau hynny.

 

Diolchodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i Allison Lowe, Swyddog Gwasanaethau Democrataidd am ei gwaith yn coladu ac ail-fformatio'r adroddiadau yn ogystal â Chadeiryddion presennol a blaenorol Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd am eu cymorth.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Nodi'r adroddiadau:

2)            Caiff yr adroddiadau eu cyflwyno i'r cyngor ar 7 Hydref 2021.

 

18.

Cynllun Gwaith 2021-2022. pdf eicon PDF 119 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd, yn amodol ar ddiwygiadau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2021-2022.

 

Penderfynwyd nodi'r Cynllun Gwaith yn amodol ar ychwanegu'r canlynol:

 

8 Tachwedd 2021  

 

Ychwanegu:

·                    Amrywiaeth mewn Democratiaeth;

·                    Polisi Cyfarfod Hybrid/Aml-Leoliad (yn dibynnu ar gynnydd).