Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2021-2022. Penderfyniad: Penodwyd y Cynghorydd D W W
Thomas. Cofnodion: Penderfynwyd y dylid ethol y Cynghorydd D W W Thomas yn Gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2021-2022. (Bu'r Cynghorydd D W W
Thomas yn llywyddu) |
|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2020-2021. Penderfyniad: Penodwyd y Cynghorydd J A Hale. Cofnodion: Penderfynwyd y dylid ethol y Cynghorydd J A Hale yn
Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn Ddinesig 2021-2022. |
|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol gan aelodau. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion
Cyfarfodydd y Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau a gynhaliwyd ar 26 Ionawr fel
cofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 238 KB Penderfyniad: Penderfynwyd
gwahardd y Cyhoedd. Cofnodion: Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu
bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff
gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn
Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas
ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y
cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar yr agenda. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Honiad o Fwlio ac Aflonyddu. Penderfyniad: Penderfynwyd:
- 1) Cyfeirio'r mater at Unigolyn Annibynnol Dynodedig
(DIP) er mwyn gallu cynnal ymchwiliad i'r honiadau o fwlio ac aflonyddu a wnaed
gan yr achwynydd; 2) Yn ystod cyfnod yr ymchwiliad, ni fyddai ataliad
ffurfiol yn digwydd yn amodol ar asesiad risg boddhaol i sicrhau bod
buddiannau'r ddau barti yn cael eu gwarchod. Cofnodion: Cyflwynodd Adrian
Chard, Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol adroddiad i'r
Pwyllgor ar honiad o fwlio ac aflonyddu.
Darparwyd sylwadau ysgrifenedig yn yr adroddiad gan y Swyddogion dan
sylw. Cafodd y Pwyllgor
sylwadau llafar gan y Swyddog dan sylw, gyda'i gynrychiolydd Undeb llafur,
Chris Cooze, Unsain. Penderfynwyd
ar y canlynol: - 1)
Dylid cyfeirio'r mater at Berson Annibynnol Dynodedig er
mwyn gallu cynnal ymchwiliad i'r honiadau o fwlio ac aflonyddu a wnaed gan yr
achwynydd; 2)
Yn ystod cyfnod yr ymchwiliad, ni fyddai gwaharddiad
ffurfiol yn digwydd yn amodol ar asesiad risg boddhaol i sicrhau bod
buddiannau'r ddau barti'n cael eu diogelu. |