Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Democratic Service - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol gan aelodau. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd
cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau
a gynhaliwyd ar 18, 20 a 24 Tachwedd 2020 fel cofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 238 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig
fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel
y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio)
(Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y
cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar yr agenda. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Apêl Cludiant i'r Ysgol. PDF 7 MB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor apêl gan riant y disgybl a amlinellwyd yn yr adroddiad. Cyflwynwyd yr
apêl yn erbyn penderfyniad yr adran mewn perthynas â'r hawl am gludiant am ddim
o'i gyfeiriad cartref i ysgol yn Sir Gâr. Cyflwynodd
mam-gu/tad-cu y disgybl sylwadau llafar i'r Pwyllgor i gefnogi'r cyflwyniadau
ysgrifenedig ac amlinellodd amgylchiadau penodol eu hapêl a oedd yn ymwneud â
sefyllfa'r plentyn a'r teulu a materion a oedd yn ymwneud â'r adeg pan symudodd
y teulu dŷ ym mis Ionawr 2020. Dywedasant eu bod
yn barod i fynd â'r plentyn i'r man gadael a thalu am gostau'r cludiant pe
gellid sicrhau lle ar y bws ysgol cywir. Gwnaeth
swyddogion yr adrannau Addysg a Chludiant sylwadau llafar hefyd i gefnogi’u
cyflwyniadau ysgrifenedig, gan fanylu ar y polisïau presennol sy'n ymwneud â
chludiant i ysgolion y dalgylch, a'r sefyllfa sy'n gysylltiedig â COVID yn y
ddau awdurdod mewn perthynas ag atal cynnig seddi sbâr ar gludiant i'r ysgol. Gofynnodd
aelodau'r pwyllgor gyfres o gwestiynau i'r apelwyr a'r swyddogion a ymatebodd
yn unol â hynny. Nodwyd
Darpariaeth Statudol ac Arweiniad Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth
Cymru a Pholisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol Dinas a Sir Abertawe yn yr
atodiad i'r adroddiad. Ystyriodd y
Pwyllgor yr holl gyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig yn llawn. PENDERFYNWYD 1)
gwrthod
yr apêl ar ran y disgybl a amlinellir yn yr adroddiad. 2)
dweud
wrth y rhieni, o ystyried amgylchiadau'r achos, y dylent hefyd ystyried gwneud
apêl i Gyngor Sir Caerfyrddin. |