Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell 235 (Ystafell Gyfarfod y Cynghorwyr) - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

26.

Ethol Cadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2018-2019.

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid ethol y Cynghorydd D. W. W. Thomas yn Gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2018-2019.

 

Bu'r Cynghorydd D W W Thomas (Cadeirydd) yn llywyddu

27.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2018-2019.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd J E Burtonshaw yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2018-2019.

28.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol gan aelodau.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

29.

Cofnodion: pdf eicon PDF 58 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau a gynhaliwyd ar 31 Awst 2017 fel cofnod cywir.

30.

Trefn trafodion y gwrandawiad apêl. pdf eicon PDF 46 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau a gynhaliwyd ar 31 Awst 2017 fel cofnod cywir.

31.

Dinas a Sir Abertawe - Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. pdf eicon PDF 121 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd nodi Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol Dinas a Sir Abertawe.

32.

Llywodraeth Cymru - Teithio gan Dysgwyr - Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol. pdf eicon PDF 794 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd nodi Darpariaeth Statudol ac Arweiniad Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth Cymru.

33.

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. pdf eicon PDF 313 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd nodi Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.

34.

Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru. pdf eicon PDF 331 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd nodi Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru.

35.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar yr agenda.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

36.

Apêl Cludiant i'r Ysgol.

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor apêl gan y rhiant PH-G.  Cyflwynwyd yr apêl yn erbyn penderfyniad yr adran mewn perthynas â'r hawl am gludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim o'i gyfeiriad cartref i Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt.

 

Penderfynwyd gwrthod apêl PH-G.