Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Aelod Llywyddol ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022 - 2023. Cofnodion: Penderfynwyd y dylid ethol y Cynghorydd J P Curtice yn
Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-2023. (Bu'r Cynghorydd J P Curtice yn llywyddu) |
|
Ethol Dirprwy Aelod Llywyddol ar gyfer Blwyddyn Ddinesigm 2022 - 2023. Penderfyniad: Penodwyd y Cynghorydd W G Lewis Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd W G Lewis yn
Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2022-2023 |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad:
Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion
Cyfarfodydd y Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau a gynhaliwyd ar 21 Ebrill 2022
fel cofnod cywir. |
|
Dinas a Sir Abertawe - Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. PDF 121 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Nodwyd Teithio
gan Ddysgwyr - Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol Llywodraeth
Cymru. |
|
Llywodraeth Cymru - Teithio gan Dysgwyr - Darpariaeth Statudola Chanllawiau Gweithredol. PDF 794 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Nodwyd Teithio
gan Ddysgwyr - Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol Llywodraeth
Cymru. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 238 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu
bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd
Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn
Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas
ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y
cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar yr agenda. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Apêl Cludiant i'r Ysgol. Penderfyniad: Gwrthodwyd yr apêl Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor apêl gan rieni y disgybl a amlinellwyd yn yr adroddiad. Cyflwynwyd yr apêl
yn erbyn penderfyniad yr adran mewn perthynas â'r hawl am gludiant am ddim o'r
cyfeiriad cartref i Ysgol Gyfun yr Esgob Gore. Yna cyflwynodd
rhieni’r disgybl a'u cynrychiolydd cyfreithiol sylwadau llafar i’r Pwyllgor i
gefnogi eu cyflwyniadau ysgrifenedig ac amlinellwyd amgylchiadau penodol eu
hapêl mewn perthynas â’r plentyn a’i amgylchiadau a’i amodau personol. Cyfeiriwyd at y
dystiolaeth a gyflwynwyd yn flaenorol a chyfeiriwyd at y dogfennau ychwanegol a
gyflwynwyd y diwrnod cyn y cyfarfod. Roedd swyddogion
o'r adrannau Addysg a Chludiant hefyd wedi rhoi sylwadau llafar i gefnogi eu
cyflwyniadau ysgrifenedig. Amlinellwyd y
materion ynghylch y polisi a oedd yn ymwneud â'r pellter o'r eiddo i'r ysgol, y
llwybrau cerdded/bws sydd ar gael ac argaeledd rhieni i gludo'r plentyn i'r
ysgol a manylwyd arnynt gan y swyddogion i'r pwyllgor. Gofynnodd
aelodau'r pwyllgor gwestiynau amrywiol i'r apelydd a'r swyddogion a ymatebodd
yn briodol. Rhoddodd y
Pwyllgor ystyriaeth lawn i'r holl gyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig, gan
gynnwys y ddwy ddogfen ychwanegol a gyflwynwyd gan y rhieni ddoe a oedd wedi'u
dosbarthu i'r aelodau. Penderfynwyd gwrthod yr apêl ar ran y disgybl a
amlinellwyd yn yr adroddiad gan nad oedd y pwyllgor yn teimlo bod amgylchiadau
eithriadol i'r achos. |