Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd llofnodi a chymeradwyo cofnodion y
Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2021 ac 16
Tachwedd 2021 fel cofnodion cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 238 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig
fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)
(Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr
adroddiad(au). Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y
cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau canlynol ar yr agenda. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Ystyried Achwyniad Posibl. Cofnodion: Cyflwynodd Adrian
Chard, Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol, adroddiad am
achwyniad posib i'r Pwyllgor. Darparwyd
sylwadau ysgrifenedig am yr achwyniad posib ac ymateb y swyddog dan sylw yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Penderfynwyd bod yr wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd
i'r Pwyllgor y tu allan i bolisïau'r cyngor a chylch gwaith y Prif Swyddogion a
Rheolau Gweithdrefnau Disgyblu'r Prif Swyddogion. |