Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Dinas a Sir Abertawe - Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. PDF 121 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Nodwyd Polisi
Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol Dinas a Sir Abertawe. |
|
Llywodraeth Cymru - Teithio gan Dysgwyr - Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol. PDF 794 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Nodwyd
Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth
Cymru. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 238 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig
fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)
(Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr
adroddiad(au). Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y
cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar yr agenda. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Apêl Cludiant i'r Ysgol.
Penderfyniad: Gwrthodwyd yr Apêl Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor
apêl gan riant y disgybl a amlinellwyd yn yr adroddiad. Cyflwynwyd yr
apêl yn erbyn penderfyniad yr adran mewn perthynas â'r cymhwyster ar gyfer
cludiant am ddim o'r cyfeiriad cartref i YGG Gŵyr. Yna gwnaeth
rhiant y disgybl sylwadau llafar i'r Pwyllgor i gefnogi ei chyflwyniadau
ysgrifenedig ac amlinellodd amgylchiadau penodol ei hapêl mewn perthynas â
sefyllfa bresennol y teulu o ran y disgybl a'i chwaer. Roedd swyddogion
o'r adrannau Addysg a Chludiant hefyd wedi rhoi sylwadau llafar i gefnogi’u
cyflwyniadau ysgrifenedig. Amlinellodd y
swyddog cludiant y problemau ynghylch dalgylchoedd newidiol yr ysgol y gwnaed
cais amdanynt i'r pwyllgor. Gofynnodd
aelodau'r pwyllgor gwestiynau amrywiol i'r apelydd a'r swyddogion a ymatebodd
yn briodol. Ystyriodd y
Pwyllgor yr holl gyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig yn llawn. Penderfynwyd gwrthod yr apêl ar ran y disgybl a
amlinellwyd yn yr adroddiad gan nad oedd y pwyllgor yn teimlo bod amgylchiadau
eithriadol i'r achos; |