Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2021 fel cofnod
cywir. |
|
Dinas a Sir Abertawe - Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. PDF 121 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Nodwyd Polisi
Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol Dinas a Sir Abertawe. |
|
Llywodraeth Cymru - Teithio gan Dysgwyr - Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol. PDF 794 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Nodwyd
Darpariaeth Statudol ac Arweiniad Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth
Cymru. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 238 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y
cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar yr agenda. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Apêl Cludiant i'r Ysgol. Penderfyniad: Gwrthodwyd yr apêl. Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor apêl gan riant y disgybl a amlinellwyd yn yr adroddiad. Cyflwynwyd yr
apêl yn erbyn penderfyniad yr adran mewn perthynas â'r hawl am gludiant am ddim
o'i gyfeiriad cartref i YGG Gŵyr. Yna gwnaeth
rhiant y disgybl sylwadau ar lafar i'r Pwyllgor i gefnogi ei chyflwyniadau
ysgrifenedig ac amlinellodd amgylchiadau penodol ei hapêl mewn perthynas â
sefyllfa bresennol y teulu o ran y disgybl a'i chwaer. Roedd swyddogion
o'r adrannau Addysg a Chludiant hefyd wedi rhoi sylwadau ar lafar i gefnogi eu
cyflwyniadau ysgrifenedig. Amlinellodd y
swyddog cludiant y problemau ynghylch dalgylchoedd newidiol yr ysgol y gwnaed
cais amdanynt i'r pwyllgor. Gofynnodd
aelodau'r pwyllgor gwestiynau amrywiol i'r apelydd a'r swyddogion a ymatebodd yn
unol â hynny. Ystyriodd y
Pwyllgor yr holl gyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig yn llawn. Penderfynwyd gwrthod yr apêl ar ran y disgybl a
amlinellwyd yn yr adroddiad gan nad oedd y pwyllgor yn teimlo bod amgylchiadau
eithriadol i'r achos. |