Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau a gynhaliwyd ar 9 Medi 2021 fel cofnod
cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 238 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig
fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)
(Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr
adroddiad(au). Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y
cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar yr agenda. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Gwrandawiad Achwyniad. Penderfyniad: Achwynwyd Cwyn Cofnodion: Cyflwynodd Adrian
Chard, Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol, adroddiad o'r
achwyniad i'r Pwyllgor. Darparwyd
sylwadau ysgrifenedig o'r achwyniad ac ymateb y swyddog dan sylw yn yr adroddiad
a gylchredwyd. Derbyniodd y
Pwyllgor sylwadau llafar gan y Swyddog dan sylw i gefnogi ei sylwadau a
gyflwynwyd yn erbyn yr achwyniad honedig. Penderfynwyd gwrthod y mater a dyma ddiwedd yr honiad. |