Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Apeliadau a Dyfarniadau a gynhaliwyd ar 26 Mai 2021 fel cofnod
cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 238 KB Penderfyniad: Penderfynwyd: - 1) Cyfeirio'r mater at Unigolyn Annibynnol Dynodedig (DIP) er mwyn gallu cynnal ymchwiliad i'r honiadau o fwlio ac aflonyddu a wnaed gan yr achwynydd; 2) Yn ystod cyfnod yr ymchwiliad, ni fyddai ataliad ffurfiol yn digwydd yn amodol ar asesiad risg boddhaol i sicrhau bod buddiannau'r ddau barti yn cael eu gwarchod. Cofnodion: Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y
cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau canlynol ar yr agenda. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Gwrandawiad Achwyniad. Cofnodion: Cyflwynodd Adrian
Chard, Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol, adroddiad o'r
achwyniad i'r Pwyllgor. Darparwyd
sylwadau ysgrifenedig yn yr adroddiad gan y swyddog dan sylw. Derbyniodd y
Pwyllgor sylwadau llafar gan y swyddog gan sylw. Penderfynwyd: - 1)
Cyfeirio'r mater i Berson Annibynnol Dynodedig (PAD) er
mwyn gallu cynnal ymchwiliad i'r honiadau a wnaed gan yr achwynydd; 2)
Yn ystod cyfnod yr ymchwiliad, ni fyddai gwaharddiad
ffurfiol yn cael ei roi ar waith yn amodol ar asesiad risg boddhaol yn cael ei
gynnal i sicrhau bod buddion y ddau barti'n cael eu hamddiffyn. |