Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod Cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2019 yn gofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 112 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr
adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - Perchennog Cerbyd Hacni - MN. - Cofnodion: Manylodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar y cefndir mewn perthynas ag MN. Gofynnodd aelodau
gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn
briodol. Esboniodd MW,
cyfreithiwr sy'n gweithio ar ran MN, yr amgylchiadau mewn perthynas â'r
digwyddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Rhoddodd MW sail apelio i'r
cyfreithiwr a oedd yn gweithio ar ran y pwyllgor, a oedd yn rhoi gwybodaeth
fanwl i aelodau'r pwyllgor. Penderfynwyd y byddai MN yn derbyn llythyr rhybudd cryf
o ran ymddygiad yn y dyfodol. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - SS. Cofnodion: Esboniodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch fod SS wedi rhoi gwybod i'r awdurdod nad
oedd yn gallu mynd i'r cyfarfod oherwydd ymrwymiadau gwaith. Manylodd y Rheolwr
Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar y cefndir mewn perthynas ag SS. Gofynnodd aelodau
gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Penderfynwyd cymeradwyo cais SS am drwydded i
yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat am gyfnod o
flwyddyn. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - MJA. Cofnodion: Manylodd y
Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar y cefndir mewn perthynas ag MJA. Esboniodd Mr W,
cyfreithiwr a oedd yn gweithio ar ran MJA, yr amgylchiadau mewn perthynas â'r
digwyddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd y byddai MJA yn derbyn llythyr rhybudd o
ran ymddygiad yn y dyfodol. |
|
Y Diweddaraf am y Camau Gweithredu Uniongyrchol. Cofnodion: Nodwyd y camau
gweithredu a gymerwyd gan swyddogion. |