Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod
cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2024 yn
gofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 116 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at
Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitem fusnes a nodir yn yr
adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - SM. Cofnodion: Manylodd yr Arweinydd Gweithredol – Tacsis ar y cefndir mewn perthynas ag
SM. Esboniodd SM, yng nghwmni CM, yr amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r mater
ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd ar y canlynol: 1) Dylid diddymu trwydded SM i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. 2) Ni ddylid cymryd camau eraill yn erbyn trwydded SM i yrru
cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. Rheswm dros y penderfyniad Nid oedd yr aelodau'n fodlon bod SM yn berson addas a phriodol na diogel ac
addas. Ar ben hynny, nid oedd digon o dystiolaeth i wyro o'r arweiniad. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - RAP. Cofnodion: Manylodd yr
Arweinydd Gweithredol – Tacsis ar y cefndir mewn perthynas ag RAP. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddogion, a ymatebodd yn briodol. Esboniodd RAP yr
amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r mater ac atebodd gwestiynau’r aelodau. Penderfynwyd cymeradwyo cais
RAP am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat. Rheswm dros y
penderfyniad Roedd yr
Aelodau'n fodlon bod RAP yn berson addas a phriodol a diogel ac addas. |