Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

4.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

5.

Cofnodion: pdf eicon PDF 214 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar:

 

1.    26 Mehefin 2020 (ACS)

2.    26 Mehefin 2020 (HGF)

3.    10 Gorffennaf 2020 (CSL)

4.    10 Gorffennaf 2020 (JMC)

5.    24 Gorffennaf 2020

6.    11 Medi 2020 ac

7.    1 Hydref 2020

 

fel cofnodion cywir.

 

6.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

 

7.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat/Trwydded Cerbydau Hacni - AZ.

Cofnodion:

Manylodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag AZ.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

Eglurodd Mr D, a oedd yn cynrychioli AZ, yr amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r euogfarn ac atebodd gwestiynau'r Aelodau.

 

Penderfynwyd:

 

1.    Anfon llythyr rhybudd cryf at AZ ynghylch ymddygiad yn y dyfodol mewn perthynas â'r Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat.

 

Anfon llythyr rhybudd cryf at AZ ynghylch ymddygiad yn y dyfodol mewn perthynas â'r Drwydded Cerbyd Hacni.

8.

Canlyniadau Apeliadau.

Cofnodion:

Nodwyd canlyniadau Apeliadau.