Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Statudol a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2020 yn gofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - SWL. Cofnodion: Manylodd Arweinydd
y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndirol mewn perthynas â SWL. Esboniodd SWL yr
amgylchiadau mewn perthynas â'r euogfarn ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd cymeradwyo cais SWL am drwydded
yrru cerbyd hacni a hurio preifat. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - DRH. Cofnodion: Manylodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndirol mewn perthynas â DRH. Gofynnodd yr
aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Esboniodd DRH yr
amgylchiadau mewn perthynas â'r ardystiadau ac atebodd gwestiynau'r Aelodau. Penderfynwyd y dylid gwrthod cais DRH am
drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat. Rheswm dros y
Penderfyniad Nid oedd DRH yn
bodloni'r aelodau ei fod yn ffit ac yn briodol ac yn ddiogel ac yn addas i ddal
trwydded o dan adrannau 4.20, 4.22, 4.27 a 4.39 o'r canllawiau ar benderfynu ar
addasrwydd ymgeiswyr a dalwyr trwydded yn y busnes cerbydau hacni
a hurio preifat. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - PMT. Cofnodion: Manylodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndirol mewn perthynas â PMT. Esboniodd PMT yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r digwyddiadau a'r materion a godwyd yn yr
adroddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd y dylid adnewyddu trwydded yrru cerbyd hacni
a hurio preifat PMT am flwyddyn. Rheswm dros y Penderfyniad Cododd yr aelodau bryderon ynghylch materion
ymddygiad a barnwyd ei bod yn briodol adnewyddu'r drwydded am flwyddyn. |