Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

48.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)    Datganodd y Cyng. C Anderson gysylltiad personol â Chofnod Rhif .....Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 a Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 – Trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio – JP – Rwy'n adnabod yr ymgeisydd. Gadawodd y Cynghorydd C Anderson y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried.

2)    Datganodd y Cyng. C Anderson gysylltiad personol â Chofnod Rhif ..... Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 a Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 – Trwydded i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio/Trwydded Cerbyd Hacni – BJE – Rwy'n adnabod yr ymgeisydd. Gadawodd y Cynghorydd C Anderson y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried.

 

49.

Cofnodion. pdf eicon PDF 218 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2019 yn gofnod cywir.

 

50.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

51.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat/Trwydded cerbyd cerbydau Hackney - BJE.

Cofnodion:

Manylodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â BJE.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Esboniodd BJE, yng nghwmni ei gyfreithiwr, Mr B, yr amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r digwyddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd rhoi rhybudd i BJE ynghylch ymddygiad yn y dyfodol mewn perthynas â thrwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat, ac na ddylid cymryd camau mewn perthynas â thrwydded cerbyd BJE.

 

52.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - SCE.

Cofnodion:

Manylodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag SCE.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Esboniodd SCE, a oedd yng nghwmni aelod o'r teulu, yr amgylchiadau sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd rhoi trwydded yrru gyfyngedig i yrru cerbyd hacni a hurio preifat  i SCE a rhoi rhybudd iddo am ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

53.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976- Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - JP.

Cofnodion:

Manylodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â JP.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Esboniodd JP yr amgylchiadau sy'n ymwneud â'r digwyddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd peidio â chymryd camau pellach mewn perthynas â
thrwydded JP i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio.

 

54.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - SS.

Cofnodion:

Manylodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag SS.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Esboniodd SS yr amgylchiadau sy'n ymwneud â'r digwyddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd gwrthod cais SS am drwydded gyfyngedig i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Rheswm dros y Penderfyniad

 

1)    Mae gan yrwyr tacsi swydd gyfrifol a swydd o ymddiriedaeth ac mae ymddygiad blaenorol yr ymgeisydd wedi dangos ei fod wedi manteisio ar yr ymddiriedaeth sydd gan bobl mewn gyrwyr tacsi, sef ymddygiad amhriodol ar fenyw ddiamddiffyn a oedd ar ei phen ei hun.

 

2)    Cymerwyd natur y gŵyn flaenorol mor ddifrifol gan aelodau fel eu bod yn teimlo y dylid defnyddio'r cyfnod hwyaf o ymddygiad da a ganiateir dan y canllawiau. Nid oedd y cyfnod hwyaf wedi dod i ben ar yr adeg y cynhaliwyd gwrandawiad yr ymgeisydd, ac nid oedd yr ymgeisydd wedi darparu unrhyw rheswm cymhellol pam y dylid gwyro o'r canllawiau;

 

3)    Nid oedd yr ymgeisydd wedi dwyn perswâd ar yr aelodau ei fod yn edifar am ei weithredodd blaenorol, ac roedd y cymorth proffesiynol a geisiwyd gan yr ymgeisydd yn ymwneud â sut roed dy digwyddiad wedi effeithio arno ef, nid sut gallai ei ymddygiad ef fod wedi effeithio ar bobl eraill.

 

4)    Ni ddarparodd yr ymgeisydd dystiolaeth i ddangos na fyddai'n berygl i deithwyr benywaidd ar eu pennau eu hunain yn ei dacsi.

 

5)     Er na chafodd yr ymgeisydd gollfarn droseddol, roedd aelodau o'r farn bod ymddygiad blaenorol yr ymgeisydd yn ymddygiad nad oedd yn gweddu i ddeiliad trwydded, ac nid oedd yr ymgeisydd wedi pasio'r prawf addas a chymwys sy'n ofynnol i ddal trwydded.