Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

36.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

37.

Cofnodion: pdf eicon PDF 229 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod Cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 13 Medi 2019 yn gofnod cywir.

 

38.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 238 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

39.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Deddf Cydraddoldeb 2010 - Teithwyr mewn Cadeiriau Olwyn - Cais am Dystysgrif Eithrio - IMA.

Cofnodion:

Manylodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar y cefndir mewn perthynas ag IMA.

 

Esboniodd IMA yr amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais IMA am Dystysgrif Eithrio yn ddiderfyn.

 

40.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - SS.

Cofnodion:

Dywedodd y cyfreithiwr sy'n cynghori'r pwyllgor fod tudalennau'r adroddiad a'r atodiad sy'n ymwneud ag SS yn anghyflawn ym mhapurau agenda'r aelodau o ganlyniad i broblemau gweinyddol. Er mwyn i SS gael gwrandawiad teg, roedd swyddogion wedi siarad ag SS a oedd wedi gofyn a allai aelodau ystyried gohirio'r mater i dyddiad hwyrach.

 

Penderfynwyd gohirio'r eitem tan gyfarfod yn y dyfodol.

 

41.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Preifat - MSB.

Cofnodion:

Manylodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar y cefndir mewn perthynas ag MSB.

 

Esboniodd MSB yr amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r euogfarnau ac atebodd gwestiynau aelodau.

 

Ceisiodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch eglurhad ar ddau fater yn yr adroddiad.

 

Darparodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor gyngor iddynt yn dilyn eglurhad gan y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch.

 

Penderfynwyd gwrthod cais MSB am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Teimlwyd nad oed MSB wedi cynnig lliniariad cymhellol i wyro o baragraff 4.42 ar yr Arweiniad ar Benderfynu ar Addasrwydd Ymgeiswyr a Dalwyr trwydded yn y Busnes Cerbydau Hacni a Hurio Preifat, sy'n nodi 'lle bo gan ymgeisydd 7 neu fwy o bwyntiau ar eu trwydded DVLA ar gyfer mân droseddau traffig neu droseddau tebyg, ni roddir trwydded nes bod o leiaf 5 mlynedd wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd a roddwyd'.

 

Teimlai aelodau nad oedd MSB wedi darparu tystiolaeth o amgylchiadau eithriadol.

na rhesymau cyfiawnadwy i wyro oddi wrth y polisi; yn ôl 3.29 yr arweiniad.

 

Nid oedd aelodau'n ystyried bod MSB yn berson diogel ac addas

ac nid oedd wedi pasio'r prawf addas a phriodol.

 

42.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hurio Preifat - Rhif Cofrestru - DRF.

Cofnodion:

Manylodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar y cefndir mewn perthynas â DRF.

 

Esboniodd DRF amgylchiadau'r collfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd gwrthod cais DRF am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Roedd aelodau o'r farn bod DRF wedi methu darparu lliniarad cymhellol ynghylch y collfarnau. 

 

Cyfeiriodd yr aelodau at adran 4.31 yr Arweiniad ar Benderfynu ar Addasrwydd Ymgeiswyr a Dalwyr trwydded yn y Busnes Cerbydau Hacni a Hurio Preifat, sy'n nodi 'lle bo gan ymgeisydd gollfarn o drais, neu gysylltiad ag unrhyw drosedd sy'n ymwneud â thrais, ni roddir trwydded ni roddir trwydded nes bod o leiaf 10 mlynedd wedi mynd heibio ers cwblhau unrhyw ddedfryd a roddwyd'.

 

Nid oedd aelodau o'r farn bod DRF yn berson diogel ac addas, a hefyd teimlwyd nad oedd yn berson addas a phriodol.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i 3.29 yr arweiniad a theimlai aelodau na ddangosodd DRF dystiolaeth o unrhyw amgylchiadau eithriadol, na rhesymau cyfiawnadwy i wyro oddi wrth y canllawiau mabwysiedig.