Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

40.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd N J Davies - Personol - Cofnod Rhif 47 - Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - KSR. Rwy'n adnabod yr ymgeisydd yn broffesiynol. Gadawodd y Cynghorydd N J Davies y cyfarfod cyn ystyried yr eitem.

 

41.

Cofnodion: pdf eicon PDF 103 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod Cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2018 yn gofnod cywir.

 

42.

Mae Cerbydau Cludo â Chadair olwyn o Fewn Cyrraedd. pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i'r Swyddogion Trwyddedu bennu ceisiadau ychwanegol mewn perthynas â cherbydau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn o'r cefn.

 

Cyfeiriodd hi at ymgynghoriadau â’r Awdurdod Tân, ystyriaethau perthnasol a'r weithdrefn arfaethedig.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

Eglurodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor ddiben yr adroddiad a chyfeiriodd at fudd y cyhoedd yn y mater hwn o ystyried bod tri aelod o'r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Gofynnwyd barn yr aelodau o ran caniatáu i dri aelod o’r cyhoedd gyflwyno eu sylwadau. Rhoddodd y cyfreithiwr gyngor ar y gweithdrefnau a nodir yn y cyfansoddiad a dewisiadau amgen y gallai'r pwyllgor eu mabwysiadu.

 

Penderfynnodd yr aelodau roi cyfle i'r cyhoedd siarad o blaid neu yn erbyn yr argymhelliad, gan ganiatáu 5 munud i'r rheiny o blaid/yn erbyn i siarad.

 

Ystyriodd yr aelodau sylwadau'r tri aelod o'r cyhoedd, a oedd i gyd o blaid yr argymhelliad.

 

Penderfynwyd:

 

1.     Bod gan Swyddogion yr Is-adran Drwyddedu yr awdurdod i ganiatáu trwyddedau cerbydau mewn perthynas â cherbydau hacni sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn o'r cefn, yn amodol ar y cerbyd yn pasio archwiliad y cyngor a bodloni holl feini prawf y cais ac fe drwyddedir y cerbydau hyn yn ôl teilyngdod.

 

2.     Adroddir am unrhyw gerbyd nad yw’n cydymffurfio â'r safonau gofynnol i'r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol er mwyn iddo benderfynu arno.

 

 

43.

Gweithdrefn ar gyfer gweithredu ar unwaith-atal neu ddirymu cerbyd Hackney/trwydded gyrrwr hurio preifat. pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch adroddiad er gwybodaeth a oedd yn amlinellu'r camau gweithredu a gymerwyd gan swyddogion yn dilyn penderfyniad i sicrhau bod gyrrwr yn cael ei atal rhag gyrru cerbyd trwyddedig. Roedd aelodau wedi ceisio eglurhad o ran y pwerau sydd ar gael i swyddogion ofyn amdanynt fel bod y drwydded a'r bathodynnau’n cael eu dychwelyd i'r awdurdod.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

 

44.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Bwrdd Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

45.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - DJB.

Cofnodion:

Manylodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais DJB am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Esboniodd DJB yr amgylchiadau ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DJB am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

46.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - LB.

Cofnodion:

Cylchredodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd gan Heddlu De Cymru yn dilyn cymeradwyaeth LB, ac amlinellwyd y camau mewn perthynas â chais LB ar gyfer cais am Drwydded Gyfyngedig i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat.

 

Gwnaeth LB gais i'r cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor ddarllen cyflwyniad ysgrifenedig ynglŷn ag amgylchiadau'r drosedd. Hefyd darllenodd y cyfreithiwr wybodaeth ynglŷn â materion perthnasol a ddarparwyd gan LB er gwybodaeth i'r aelodau.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i LB ac i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Penderfynwyd y dylid gwrthod cais LB am drwydded gyfyngedig i yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

1.     Nid oedd aelodau’n fodlon bod LB yn berson addas a phriodol fel y gallent fynd yn groes i’w canllawiau sy'n nodi y dylai tair blynedd fynd heibio cyn i'r drwydded gyrru gael ei hadfer.

 

2.     O ystyried y dyddiad a difrifoldeb yr euogfarn, barnwyd bod LB mewn cyfnod prawf o hyd ac nid oedd yr aelodau'n fodlon bod yr ymddygiad hwn yn un unigryw ac ni fyddai'n cael ei ailadrodd.

 

3.     Nododd yr aelodau mae hebryngwr cludiant ysgol oedd LB, fodd bynnag nid yw'r rôl hon yn cynnwys gyrru aelodau'r cyhoedd.

 

47.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - KSR.

Cofnodion:

 Ceisiodd KSR gymeradwyaeth y pwyllgor i ohirio ystyriaeth ar y mater i'r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol ar 14 Rhagfyr, 2018, er mwyn caniatáu i KSR gael hyd i gynrychiolaeth briodol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais KSR i ohirio hyd nes cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol ar 14 Rhagfyr, 2018.