Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

33.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau.

 

34.

Cofnodion: pdf eicon PDF 95 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 10 Awst 2018 yn gofnod cywir.

 

35.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Bwrdd Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

36.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Deddf Cydraddoldeb 2010 - Teithwyr mewn Cadeiriau Olwyn - Cais am Dystysgrif Eithrio - SPL.

Cofnodion:

Manylodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais SPL am eithrio rhag dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Esboniodd SPL yr amgylchiadau ac atebwyd cwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais SPL am eithriad llawn o gludo pobl sy’n defnyddio cadair olwyn mewn cerbydau hacni a/neu gerbydau hurio preifat.

 

37.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - SCM.

Cofnodion:

 Manylodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais SCM am adnewyddu trwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Esboniodd SCM, yng nghwmni Mr W, yr amgylchiadau, darllenodd eirda cymeriad ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd y byddai SCM yn derbyn llythyr rhybudd cadarn ynghylch ymddygiad yn y dyfodol.

38.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - JPG.

Cofnodion:

Manylodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais JPG am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Esboniodd JPG yr amgylchiadau ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Darllenodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor eirdaon cymeriad a ddarparwyd gan JPG i gefnogi ei gais.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais JPG.

 

39.

Y Diweddaraf am y Camau Gweithredu Uniongyrchol.

Cofnodion:

Nodwyd y diweddaraf am y camau gweithredu uniongyrchol.

 

[Ceisiodd yr aelodau gael eglurhad ynglŷn â'r broses ar gyfer dychwelyd bathodynnau tacsis pe bai trwydded yn cael ei dirymu.  Datganodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch y byddai'n darparu diweddariad yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor].