Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

22.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

23.

Cofnodion: pdf eicon PDF 115 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2018 yn gofnod cywir.

 

24.

Cais am Eithrio rhag Arddangos Sticeri Drws a Phlât Trwydded - Direct Executive Travel. pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch fod Mr Matthews wedi cyflwyno cais am eithriad rhag arddangos sticeri drysau a phlât trwyddedu ar ei gerbydau hurio preifat cyfyngedig, FL13 HLC ac EO17 VJF. Y rheswm dros gyflwyno'r cais oedd mai diben ei fusnes oedd trefnu teithiau dethol ymlaen llaw/teithiau i'r maes awyr ac yn ôl ac nid oedd yn defnyddio'r cerbyd i fynd â phlant yn ôl ac ymlaen i'r ysgol neu fel tacsi.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Siaradodd Mr Matthews o blaid ei gais.

 

Nododd yr aelodau'r amgylchiadau presennol a gofynnwyd cwestiynau i Mr Matthews ganddynt.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais Mr Matthews am eithriad rhag arddangos sticeri ar ddrysau a phlât trwyddedu ei gerbydau hurio preifat cyfyngedig, FL13 HLC ac EO17 VJF, dan yr amodau canlynol:

 

1.    Mae'n rhaid arddangos y drwydded gyfyngedig a roddwyd gan y cyngor ar sgrîn wynt flaen y cerbyd ar yr ochr i mewn. Mae'n rhaid iddi fod yn weladwy ar bob adeg pan fydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hurio dethol a theithio i'r maes awyr. Mae'n rhaid dychwelyd y drwydded i'r cyngor pan fydd y drwydded yn dod i ben;

2.    Nid yw'r eithriad hwn yn berthnasol os bydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cludiant ysgol.

 

25.

Cais am Eithrio rhag Arddangos Sticeri Drws a Phlât Trwydded Cerbyd Hurio Preifat Cyfyngedig. pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch yng nghyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol y gofynnwyd iddynt ystyried rhoi awdurdod dirprwyedig i Swyddogion Trwyddedu gymeradwyo ceisiadau am eithriadau rhag arddangos sticeri ar ddrysau a phlatiau trwyddedu.

 

Nodwyd y cefndir, y sefyllfa bresennol a'r weithdrefn arfaethedig gan yr aelodau.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion. 

 

Cytunwyd awdurdodi Swyddogion Trwyddedu o'r Is-adran Trwyddedu i gymeradwyo ceisiadau am eithriadau rhag arddangos sticeri ar ddrysau a phlatiau trwyddedu cerbydau hurio preifat cyfyngedig lle defnyddir y cerbydau ar gyfer teithiau dethol ymlaen llaw/teithiau i'r maes awyr ac yn ôl ac nid ar gyfer cludiant ysgol.  Yn ogystal, atodir amod sy'n adlewyrchu hyn at bob trwydded cerbyd unigol.

 

26.

Mae cerbydau cludo â chadair olwyn o fewn cyrraedd. pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch yng nghyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol y gofynnwyd iddynt ystyried rhoi awdurdod dirprwyedig i Swyddogion Trwyddedu gymeradwyo ceisiadau am drwyddedu cerbydau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn o'r cefn fel cerbydau hacni. 

 

Nododd yr aelodau'r weithdrefn arfaethedig a gofynnwyd cwestiynau i'r swyddogion. 

 

Penderfynwyd gohirio'r adroddiad nes eu bod yn derbyn gwybodaeth bellach ynghylch diogelwch gan Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru (neu unrhyw weithwyr proffesiynol y bernir ei fod yn addas gan Swyddogion Trwyddedu).

 

27.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Bwrdd Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

28.

Canlyniadau Apeliadau.

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybodaeth gefndir mewn perthynas â thair apêl a nodwyd yn yr adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ac Arweinydd Tîm Tai ac Iechyd Cyhoeddus.

 

Nodwyd y diweddaraf am y camau gweithredu uniongyrchol.

 

29.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni/Hurio Preifat Gyfyngedig - SAC.

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch y cefndir ynghylch trwyddedau cyfyngedig i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat SAC, ac amlinellodd yr euogfarn a dderbyniwyd gan SAC.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Eglurodd SAC, yng nghwmni'r cyfreithiwr KW, amgylchiadau'r euogfarn ac atebodd gwestiynau gan aelodau mewn perthynas â'r mater.

 

Penderfynwyd anfon llythyr rhybuddio at SAC ynghylch ymddygiad yn y dyfodol, yn enwedig mewn perthynas â hysbysiadau a chydymffurfiad cyfreithiol.

 

 

30.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni/Hurio Preifat Gyfyngedig - NM.

Cofnodion:

Manylodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir ynghylch trwyddedau NM i yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat a'i drwyddedau cerbyd hacni ac amlinellodd yr euogfarn a dderbyniwyd gan NM.

 

Esboniodd NM amgylchiadau'r euogfarn ac atebodd gwestiynau'r aelodau mewn perthynas â'r mater.

 

Penderfynwyd anfon llythyr rhybuddio at NM ynghylch ymddygiad yn y dyfodol a chydymffurfio â gofynion Trwyddedu.

 

31.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Adnewyddu Carreg Hackney a Gyrrwr Llogi Preifat- AS.

Cofnodion:

Manylodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais AS am adnewyddu trwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Esboniodd AS yr amgylchiadau mewn perthynas â'i droseddau a'i euogfarnau ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Eglurodd y cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor liniariad AS.

 

Penderfynwyd anfon llythyr rhybuddio at AS ynghylch ymddygiad yn y dyfodol.

 

32.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Ganiatáu Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Preifat - PJA.

Cofnodion:

Nododd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch fod PJA wedi methu dod i'r cyfarfod neu gyflwyno cais am ohiriad.

 

Manylodd y Rheolwr Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais PJA am drwydded gyfyngedig i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Penderfynwyd:

 

1.    Ystyried y mater yn absenoldeb PJA; ac

2.    Y dylid gwrthod cais PJA am drwydded yrru gyfyngedig i gerbyd hacni a hurio preifat.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Nid oedd y Pwyllgor yn fodlon bod PJA yn berson addas a phriodol yn seiliedig ar yr wybodaeth a gyflwynwyd ac oherwydd nid oedd yn bosib cael eglurhad gan PJA.