Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

71.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

72.

Cofnodion: pdf eicon PDF 109 KB

To approve & sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record.

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2017 yn gofnod cywir.

 

73.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Bwrdd Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel anodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

74.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Deddf Cydraddoldeb 2010 - Cwn Cymorth mewn Tacsis - Cais am Dystysgrif Eithrio - DAC.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais DAC am Dystysgrif Eithrio.

 

Esboniodd DAC yr amgylchiadau'n ymwneud â'r cais ac atebodd gwestiynau aelodau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DAC am gael ei ryddhau o gludo defnyddwyr cadair olwyn mewn cerbyd hacni a/neu gerbyd hurio preifat, tan 30 Tachwedd, 2018.

 

75.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Deddf Cydraddoldeb 2010 - Cwn Cymorth mewn Tacsis - Cais am Dystysgrif Eithrio - MJP.

Cofnodion:

Dywedodd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd fod MJP wedi methu dod i'r cyfarfod.

 

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch, yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais cais MJP am Dystysgrif Eithrio.

 

Penderfynwyd:

 

1.     Ystyried y mater yn absenoldeb MJP;

2.     Cymeradwyo cais MJP i gael ei ryddhau o gludo defnyddwyr cadair olwyn mewn cerbyd hacni a/neu gerbyd hurio preifat am gyfnod amhendant.

 

76.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - AGB.

Cofnodion:

Manylodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â chais AGB am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Esboniodd AGB yr amgylchiadau sy'n gysylltiedig â'i gais ac atebodd gwestiynau aelodau.

 

Penderfynwyd gwrthod cais AGB am drwydded yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat.                 

 

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Nid oedd aelodau'n fodlon bod AGB yn berson addas a phriodol am y rhesymau canlynol:

 

1.     Methiant AGB i ddatgelu trosedd ar y ffurflen gais i'w hystyried gan yr Awdurdod Trwyddedu fel y cafodd gyfarwyddyd i'w wneud ar y ffurflen gais. Nodwyd nad oedd y methiant hwn yn ddigwyddiad unigryw am ei fod wedi digwydd mewn cais blaenorol hefyd, ac y tynnwyd sylw AGB at y mater;

2.     Roedd AGB yn destun adolygiadau meddygol bob tri mis o hyd ac nid oedd tystiolaeth i gefnogi ei honiadau ei fod wedi gwella; ac

3.     Roedd aelodau'n poeni am effaith y feddyginiaeth ar allu AGB i yrru'n ddiogel.