Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

54.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd P Lloyd – Personol – Cofnod Rhif 59 – Gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat - RVW - rwyf yn adnabod y person a ddaeth yn gwmni i'r achwynydd a gadawais cyn y drafodaeth

 

55.

Cofnodion: pdf eicon PDF 115 KB

To Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 13 Hydref yn gofnod cywir.

 

56.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

57.

Apêl yn erbyn y penderfyniad i beidio â chymeradwyo fel gyrrwr cludiant o'r cartref i'r ysgol - CBB.

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwch-swyddog Trafnidiaeth fanylion cefndirol a oedd yn berthnasol i apêl CBB yn erbyn penderfyniad swyddogion i beidio â chymeradwyo trwydded iddo weithio fel gyrrwr ar wasanaethau cludiant o'r ysgol i'r cartref.

 

Yng nghwmni Mr T (Rheolwr Llinell Gwaith), esboniodd CBB gefndir ac amgylchiadau ei rybudd ac atebodd gwestiynau gan aelodau ynghylch y digwyddiad.

 

Penderfynwyd caniatáu apêl CBB yn erbyn y penderfyniad i beidio â'i gymeradwyo fel gyrrwr cludiant ysgol. Dylid hefyd anfon llythyr ato yn ei rybuddio ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

58.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - RVW.

Cofnodion:

Rhoddwyd manylion cefndirol gan y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch mewn perthynas â chwyn a dderbyniwyd ynghylch RVW a'r ffaith am iddo fethu cludo dau berson a'u cŵn tywys.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol.

 

Esboniodd RVW amgylchiadau'r digwyddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau mewn perthynas â'r mater. Amlinellodd ei ddealltwriaeth o'r is-ddeddfau presennol, gan amlinellu a chyfeirio at arweiniad yr oedd wedi ei gael o wefan y Gymdeithas Cŵn Tywys ar gyfer y Deillion.

 

Esboniodd y ddau achwynydd a'u cynrychiolydd o’r elusen Cŵn Tywys Cymru eu barn ar y digwyddiad, gan ateb cwestiynau'r aelodau mewn perthynas â'r mater.

 

Wedi cwestiynau gan aelodau, rhoddwyd cyngor i'r pwyllgor gan gyfreithiwr ynghylch y materion i'w hystyried gan yr aelodau.

 

Penderfynwyd

1)    peidio â chymryd unrhyw gamau yn erbyn RVW ond anfon llythyr cynghori ato ynghylch disgwyliad y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol iddo roi cymorth i deithwyr yn y dyfodol, gan gynnwys perchnogion cŵn tywys;

2)    y dylai'r Is-adran ystyried y mater o gludo cŵn tywys mewn ceir salŵn, gyda'r bwriad o gyhoeddi arweiniad ar y mater i'r diwydiant.

 

59.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - BS.

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch fanylion cefndirol mewn perthynas â thrwyddedau gyrru cerbyd hacni a hurio preifat a thrwydded yrru BS, gan amlinellu'r euogfarn yn erbyn BS.

 

Esboniodd fod BS wedi dweud wrth yr Is-adran am ei euogfarn.

 

Esboniodd BS amgylchiadau personol y tramgwydd a'r euogfarn, ac atebodd gwestiynau'r aelodau mewn perthynas â'r mater.

 

Penderfynwyd peidio â chymryd camau yn erbyn BS, ond i'w atgoffa o'i gyfrifoldebau a’i ddyletswyddau fel gyrrwr tacsi wrth gludo teithwyr.

 

60.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Gyrrwr Bathodyn Deuol - MGM - Perchennog cerbyd hurio preifat - Perchennog cerbyd hacni - Gweithredwr hurio preifat, MC Ltd.

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch fanylion cefndirol mewn perthynas â thrwyddedau gyrru cerbyd hacni a hurio preifat a thrwyddedau cerbyd a gweithredwr MGM, ac amlinellodd y rhybudd a dderbyniwyd gan MGM.

 

Esboniodd fod MGM wedi dweud wrth yr Is-adran am ei rybudd.

 

Esboniodd MGM amgylchiadau'r tramgwydd ac atebodd gwestiynau'r aelodau ynghylch y mater.

 

Penderfynwyd peidio â chymryd unrhyw gamau yn erbyn trwyddedau MGM ond y dylid anfon llythyr cryf o rybudd ato ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol, gan ei atgoffa o'i gyfrifoldeb i gydymffurfio â'r holl reolau a rheoliadau angenrheidiol yn ei rôl fel gyrrwr tacsi, a pherchennog a gweithredwr cerbydau.