Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
To
Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 11 Awst 2017 yn gofnod cywir. |
|
Deddf Cydraddoldeb 2010. PDF 70 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch adroddiad mewn perthynas ag Adran 165 a
167 Deddf Cydraddoldeb 2010. Nododd yr aelodau'r
cefndir, gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 ac arsylwadau'r swyddog. Penderfynwyd cyhoeddi a chynnal rhestr o gerbydau
dynodedig yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch adroddiad a oedd yn manylu ar
ddogfen ymgynghori gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 12 Mehefin 2017 a oedd
yn ceisio barn ar fframwaith er mwyn trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat
a gynhigir gan Gomisiwn y Gyfraith yng Nghymru a Lloegr. Nododd yr aelodau'r
crynodeb gweithredol, yr ymgynghoriad a'r ymateb i'w hystyried. Penderfynwyd cyflwyno'r ymateb y manylwyd arno yn
Atodiad B yr adroddiad i Lywodraeth Cymru i'w hystyried. |
|
Cynnig i ddiwygio Amod 23 Cerbyd Hurio Preifat Cyfyngedig. PDF 88 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch adroddiad er mwyn ystyried
diwygio'r amod presennol sy'n nodi lle dylai'r drwydded gael ei harddangos yn y
cerbyd. Nododd yr aelodau'r
amod, y cefndir a'r cynigion ar hyn o bryd. Penderfynwyd diwygio amod 23 cerbyd hurio preifat
cyfyngedig i nodi'r canlynol: "Mae'n rhaid i
rif plât a sticeri'r cerbyd gael eu gosod yn ddiogel ar y cerbyd.Mae'n rhaid i
rif plât y cerbyd gael ei osod ar far taro neu gaead y gist/drws cefn rhwng
llinell ganol ac i ochr dde'r cerbyd. Mae'n rhaid i'r sticeri gael eu gosod ar
ddrysau blaen yr ochr i mewn ac ochr dde'r cerbyd. Mae'n rhaid i'r plât a'r
sticeri fod yn gwbl weladwy ar bob adeg. Mae'n rhaid dychwelyd plât y cerbyd
i'r cyngor pan fydd y drwydded yn dod i ben." |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972
fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth)
(Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr
adroddiad. Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y
nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Deddf Llywodraeth Cymru (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Gweithredwr Hurio Preifat - UBL. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
chais UBL am Drwydded Gweithredwyr Hurio Preifat. Esboniodd UBL
amgylchiadau'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau mewn perthynas â'r mater. Penderfynwyd
gwrthod cais UBL. Rheswm dros y
Penderfyniad Nid oedd y pwyllgor
yn credu bod UBL yn berson addas a phriodol oherwydd anallu UBL i gydymffurfio
ag Amod 22. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - II. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
chais II am drwydded yrru cerbyd hacni a hurio preifat. Esboniodd II
amgylchiadau'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau mewn perthynas â'r mater. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo
trwydded II o dan Adrannau 51 a 59 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau
Amrywiol) 1976 tan 10 Rhagfyr 2017; a 2)
chymeradwyo
ffi arfaethedig o £87.00 am gyfnod o 3 mis am y drwydded yrru hon; ac 3)
ychwanegu'r
ffi am y drwydded 3 mis i'r tabl o ffioedd ym mharagraff 8 yr adroddiad. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - MHIF. Cofnodion: Dywedodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, Bwyd a Diogelwch nad oedd MHIF yn bresennol ar gyfer y
cyfarfod ac nid oedd wedi darparu unrhyw reswm dros yr absenoldeb. Darparodd yr
aelodau gyngor. Penderfynwyd gohirio'r mater tan y cyfarfod nesaf. |
|
Deddf Cydraddoldeb 2010 - Teithwyr mewn Cadeiriau Olwyn - Cais am Dystysgrif Eithrio - MAC. Cofnodion: Manylodd y Swyddog
Adrannol - Trwyddedu, bwyd a Diogelwch ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â
chais MAC am Dystysgrif Eithrio. Esboniodd MAC
amgylchiadau'r cais ac atebodd gwestiynau'r aelodau mewn perthynas â'r mater. Penderfynwyd cymeradwyo cais MAC am Dystysgrif
Eithrio tan 12 Gorffennaf 2018. |