Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

9.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

10.

Cofnodion: pdf eicon PDF 106 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2024 yn gofnod cywir.

 

11.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 116 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas â'r eitem fusnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

12.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - SM.

Cofnodion:

Manylodd yr Arweinydd Gweithredol – Tacsis ar y cefndir mewn perthynas ag SM.

 

Esboniodd SM, yng nghwmni CM, yr amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r mater ac atebodd gwestiynau'r aelodau.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)    Dylid diddymu trwydded SM i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

2)    Ni ddylid cymryd camau eraill yn erbyn trwydded SM i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Nid oedd yr aelodau'n fodlon bod SM yn berson addas a phriodol na diogel ac addas. Ar ben hynny, nid oedd digon o dystiolaeth i wyro o'r arweiniad.

 

 

13.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - RAP.

Cofnodion:

Manylodd yr Arweinydd Gweithredol – Tacsis ar y cefndir mewn perthynas ag RAP.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddogion, a ymatebodd yn briodol.

 

Esboniodd RAP yr amgylchiadau a oedd yn ymwneud â'r mater ac atebodd gwestiynau’r aelodau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais RAP am drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Roedd yr Aelodau'n fodlon bod RAP yn berson addas a phriodol a diogel ac addas.