Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiant
canlynol: Y Cynghorydd P
Lloyd - Personol - Cofnod Rhif 8 - Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 a
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 – Trwydded i Yrru Cerbyd
Hacni a Hurio Preifat – TAAR. Gadawodd y Cynghorydd P Lloyd y cyfarfod cyn i'r
eitem gael ei hystyried. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 12 Mai ac 18 Mai 2023 yn gofnod cywir. |
|
Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru): Ymateb i'r Ymgynghoriad - Papur Gwyn. PDF 286 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd
Tîm, Trwyddedu, adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn manylu ar Fil Tacsis a
Cherbydau Hurio Preifat (Cymru): Ymateb i’r Ymgynghoriad - Papur Gwyn. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 238 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - TAAR. Cofnodion: Manylodd yr
Arweinydd Gweithredol, Tacsis, ar y cefndir mewn perthynas â TAAR. Esboniodd TAAR,
yng nghwmni PW, cynrychiolydd cyfreithiol, y sefyllfa mewn perthynas â'r mater
ac atebodd gwestiynau gan aelodau. Yn dilyn
cymeradwyaeth gan y Cyfreithiwr Cyswllt, darllenodd PW eirdaon a oedd yn
cefnogi TAAR. Penderfynwyd: 1)
Dylid
diddymu Trwydded i Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat TAAR. Rheswm dros y penderfyniad Penderfynodd aelodau nad oedd TAAR yn berson
addas a phriodol ac nad oeddent yn gallu gweld unrhyw resymau cyfiawnadwy i
wyro oddi wrth yr arweiniad priodoldeb. |