Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod
cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2024 yn
gofnod cywir, yn destun cofnodi ymddiheuriadau'r Cynghorydd J P Curtice. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 116 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad. Ystyriodd y Bwrdd
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) 43
Deddf Cyfrifoldebau
Heddluoedd Trefol 1847 a Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 -
Cais am ganiatáu trwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbyd hurio preifat - KM.
Manylodd y
Rheolwr Gwasanaeth ar y cefndir mewn perthynas â KM. Cyfeiriodd y
Cyfreithiwr Arweiniol at adran 4.41 y Polisi. Esboniodd KM yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r mater ac atebodd gwestiynau’r aelodau. Penderfynwyd gwrthod cais KM
am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat. Rheswm dros y
penderfyniad Gofynnodd y
Pwyllgor ynghylch diogelwch yr ymgeisydd ac a yw'n addas ei fod yn berchen ar
drwydded, a nododd fod dwy drosedd wedi bod yn gyflym ar ôl ei gilydd. Ni roddodd yr
ymgeisydd unrhyw amgylchiadau eithriadol neu resymau cyfiawnadwy iddo beidio â
glynu wrth yr arweiniad. Mae'r Pwyllgor
felly'n gwrthod rhoi trwydded. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - KM. Cofnodion: Manylodd y
Rheolwr Gwasanaeth ar y cefndir mewn perthynas â KM. Cyfeiriodd y
Cyfreithiwr Arweiniol at adran 4.41 y Polisi. Esboniodd KM yr
amgylchiadau sy'n ymwneud â'r mater ac atebodd gwestiynau’r aelodau. Penderfynwyd gwrthod cais KM
am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat. Rheswm dros y
penderfyniad Gofynnodd y
Pwyllgor ynghylch diogelwch yr ymgeisydd ac a yw'n addas ei fod yn berchen ar
drwydded, a nododd fod dwy drosedd wedi bod yn gyflym ar ôl ei gilydd. Ni roddodd yr
ymgeisydd unrhyw amgylchiadau eithriadol neu resymau cyfiawnadwy iddo beidio â
glynu wrth yr arweiniad. Mae'r Pwyllgor
felly'n gwrthod rhoi trwydded. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - AMB. Cofnodion: Manylodd
Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar yr wybodaeth gefndir mewn perthynas ag AMB. Esboniodd AMB,
yng nghwmni JK, yr amgylchiadau mewn perthynas â'r collfarnau ac atebodd
gwestiynau'r aelodau. Penderfynwyd diddymu Trwydded
Gyfyngedig i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio
Preifat AMB. Rheswm dros y
penderfyniad Mae'r Pwyllgor yn
ystyried y mater hwn yn ôl ei rinweddau ei hun o ran yr anghysonder yn y broses
cyflwyno cais yn unig. |