Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

34.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

35.

Cofnodion: pdf eicon PDF 213 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2023 yn gofnod cywir.

36.

Y Drefn Arfaethedig ar gyfer Ymgeiswyr nad ydynt yn gallu darparu Llythyrau Ymddygiad Da. pdf eicon PDF 298 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu a Diogelwch Bwyd adroddiad a oedd yn ceisio ystyriaeth Swyddogion Trwyddedu  i gymeradwyo ceisiadau am Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Hurio Preifat mewn rhai amgylchiadau lle nad yw'r ymgeisydd yn gallu darparu llythyr ymddygiad da i gefnogi ei gais.

 

Manylwyd ar y cefndir, y drefn bresennol a materion i'w hystyried.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Penderfynwyd:

 

1)    bydd ceisiadau gan ymgeiswyr sydd wedi bod yn byw yn y DU am gyfnod o 5 mlynedd neu fwy ac nad ydynt yn gallu darparu’r ddogfennaeth berthnasol o’u gwlad enedigol a/neu wledydd lle maent wedi byw am fwy na 6 mis yn cael eu penderfynu gan swyddogion a

 

2)    bydd ceisiadau gan ymgeiswyr sydd wedi bod yn byw yn y DU am lai na 5 mlynedd ac nad ydynt yn gallu darparu’r ddogfennaeth berthnasol o’u gwlad enedigol a/neu wledydd lle maent wedi byw am fwy na 6 mis, neu os oes unrhyw bryderon mewn perthynas â'r cais, yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol am benderfyniad.

 

37.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 238 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

38.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - AM.

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

39.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Gweithredwr Hurio Preifat - UBL.

Cofnodion:

Manylodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu ar y cefndir  mewn perthynas â chais UBL am Drwydded Gweithredwyr Hurio Preifat.

 

Darparodd cynrychiolwyr UBL grynodeb cynhwysfawr o'u gweithdrefnau gweithredu ac atebwyd cwestiynau'r Aelodau mewn perthynas â'u cais.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais UBL am Drwydded Gweithredwr Hurio Preifat.