Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

24.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Datganodd y Cynghorydd M W Locke gysylltiad personol â chofnod Rhif 28 - Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847 a Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 – Adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

25.

Cofnodion: pdf eicon PDF 213 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 1 Medi 2023 yn gofnod cywir.

26.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

27.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - KM.

Cofnodion:

Manylodd y Rheolwr Gwasanaeth ar y cefndir mewn perthynas â KM.   

 

Esboniodd KM yr amgylchiadau sy'n ymwneud â'r mater ac atebodd gwestiynau’r aelodau.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Gwrthod cais KM am drwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Rheswm dros y Penderfyniad

 

Nid oedd yr Aelodau'n fodlon bod KM yn berson addas a phriodol na diogel ac addas. Ar ben hynny, nid oedd digon o dystiolaeth i wyro o'r arweiniad.

28.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais i Adnewyddu Trwydded Cerbyd Hacni - MI.

Cofnodion:

 

Manylodd y Rheolwr Gwasanaeth ar y cefndir mewn perthynas ag MI.   

 

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Esboniodd MI yr amgylchiadau sy'n ymwneud â'r mater ac atebodd gwestiynau’r Aelodau.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Gwrthod cais MI am ganiatâd i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Rheswm dros y Penderfyniad

 

Nid oedd yr Aelodau'n fodlon bod MI yn berson addas a phriodol na diogel ac addas. Ar ben hynny, nid oedd digon o dystiolaeth i wyro o'r arweiniad.