Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Trwyddedu
Cyffredinol a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2023 yn gofnod cywir. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - AJ. Cofnodion: Adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth fod AJ wedi gwneud cais am ohirio'r mater a
manylodd ar y rhesymau dros y cais. Penderfynwyd: 1) Caniatáu cais AJ am ohiriad. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Trwydded Cerbyd Hacni/Hurio Preifat Gyfyngedig - MRD. Cofnodion: Ymatebodd y Cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor i gwestiwn gan aelod. Ymatebodd y Cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r Pwyllgor i gwestiwn gan Mr W. Esboniodd MRD, yng nghwmni Mr W, yr amgylchiadau mewn perthynas â'r mater
ac atebodd gwestiynau'r aelodau. Yn dilyn cais gan Mr W, darllenodd y Cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r
Pwyllgor eirdaon mewn perthynas ag MRD. Penderfynwyd: 1)
Rhoi rhybudd i MRD ynghylch ei ymddygiad yn y
dyfodol. |
|
Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Gyrrwr Hurio Preifat - JLC. Cofnodion: Manylodd y Rheolwr Gwasanaeth ar y cefndir mewn perthynas â JLC. Dywedodd fod JLC wedi gofyn i'r mater gael ei drafod yn ei absenoldeb. Ar ben hynny, cyfeiriodd at lythyr a
gyflwynwyd gan JLC yr oedd wedi gofyn i'r pwyllgor ei ystyried. Darllenodd y Cyfreithiwr a oedd yn cynghori'r pwyllgor fersiwn wedi'i
golygu o'r llythyr. Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Penderfynwyd: 1)
Caniatáu cais JLC i'r mater gael ei drafod yn
ei absenoldeb. 2)
Gwrthod cais
JLC am ganiatáu trwydded i yrru cerbyd hacni a hurio
preifat. Rheswm dros y Penderfyniad Roedd
y Pwyllgor yn ystyried nad oedd JLC yn berson addas a phriodol na diogel ac
addas. |