Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

48.

Derbyn datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

49.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Bwrdd Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

50.

Deddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Tref 1847 - Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 - Cais am Drwydded Yrru Gyfyngedig ar gyfer Cerbyd Hacni a Hurio Preifat - GSL.

Cofnodion:

Nododd y Cyfreithiwr Cyswllt y derbyniwyd cais i ohirio'r mater ymhellach.

 

Manylodd yr Arweinydd Gweithredol, Tacsis, ar y manylion cefndir o ran y cais am ohiriad.

 

Nodwyd y rhoddwyd pob cyfle i GSL gyfarwyddo cynrychiolydd cyfreithiol ac iddo fynychu trwy amrywiaeth o ddulliau ers y cais gwreiddiol am ohiriad ar 14 Ebrill 2023.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd Gweithredol, Tacis, yr wybodaeth gefndir mewn perthynas â GSL ar y cyd â'r Arweinydd Tîm, Trwyddedu.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Gwrthod y cais am ohiriad pellach o'r mater.

2)    Gwrthod cais GSL am Drwydded Gyfyngedig i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat.

         

Rheswm dros y penderfyniad

 

Gwrthododd yr aelodau'r cais i roi Trwydded Gyfyngedig i Yrru Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat oherwydd na allant weld unrhyw resymau cyfiawnadwy i beidio â glynu wrth yr arweiniad priodoldeb oherwydd bod gan GSL euogfarnau perthnasol ac felly, penderfynwyd nad yw GSL yn berson addas a phriodol i ddal trwydded o'r fath.