Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr R
Francis Davies a A S Lewis gysylltiad personol â
Chofnod 87 “Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol”; 2)
Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 87 "Penodiadau Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb
gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion
yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol. |
|||||||||||||||||||
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Medi 2019. |
|||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Yr Henadur Anrhydeddus Alan
Lloyd - Cydymdeimladau Mynegodd yr Aelod
Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar yr Henadur
Anrhydeddus Alan Lloyd. Roedd Alan yn cyn-Gynghorydd, ac yn gyn-Faer. Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch. |
|||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||
Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2018/19. PDF 241 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cyhoeddi
Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2018/19, a oedd yn adrodd am y cynnydd a wnaed
i fodloni amcanion lles y cyngor ac i fodloni gofynion eraill a nodir yn y
canllawiau statudol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2018-2019. |
|||||||||||||||||||
Dyfarnu Contract ac awdurdodi'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer adeilad newydd i YGG Tan-y-lan. PDF 444 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio: i)
Cymeradwyaeth
ar gyfer cynllun yr adeilad newydd ar gyfer YGG Tan-y-lan yn amodol ar
gadarnhad grant a chontract gyda Llywodraeth Cymru; ii)
Awdurdod
i ddyfarnu'r contract ar gyfer y gwaith i dendr rhif 1, yn amodol ar gadarnhad
grant a chontract gyda Llywodraeth Cymru; iii)
Cymeradwyo'r
hysbysiad ynghylch addasiad i'r cynnig i ehangu YGG Tan-y-lan i ddyddiad
gweithredu diwygiedig yn unol â phenodiad y contractwr arfaethedig ac amserlen ddiweddaredig y prosiect. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r contract ar gyfer gweddill y dyluniad ac er
mwyn codi adeilad newydd ar gyfer YGG Tan-y-lan ar dir sy'n eiddo i'r cyngor yn
Heol Beaconsview, y Clâs i
dendr rhif 1, yn amodol ar gadarnhad grant a chontract gyda Llywodraeth Cymru 2)
Cymeradwyo'r hysbysiad ynghylch addasiad i'r cynnig i
ehangu YGG Tan-y-lan i ddyddiad gweithredu diwygiedig yn unol â phenodiad y
contractwr arfaethedig ac amserlen ddiweddaredig y
prosiect; 3)
Cymeradwyo'r cynllun cyfalaf fel y'i disgrifiwyd ynghyd
â'r goblygiadau ariannol, yn unol â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, a hynny'n
amodol ar gadarnhad grant a chytundeb gyda Llywodraeth Cymru. |
|||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd Pwyllgor Datblygu Polisi'r Economi ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn
ceisio cymeradwyaeth i ymgymryd ag ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth
Isadeiledd ddrafft Ardal Werdd Abertawe Ganolog. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
cais i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth Isadeiledd ddrafft Ardal
Werdd Abertawe Ganolog. |
|||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 215 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar
gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod
Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg
ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|