Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr A Anthony a R V Smith gysylltiad
personol â chofnod 91 "Cynigion y Gellideb
2025/26 – 2028/29”. 2)
Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnus â Chofnod 92 "Penodiadau Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor
Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â
phenodi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol. 2) Datganodd y Cynghorydd A S Lewis
gysylltiad personol a rhagfarnus â chofnod 92 "Penodiadau
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei
ystyried. |
|||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod
y Cabinet a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2024. |
|||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud Cofnodion: Gofynnodd Dereck Roberts, yn cynrychioli aelodau Unite sydd wedi ymddeol, gwestiwn ynghylch Cofnod 91
Cynigion Cyllideb 2025/26 - 2028/29”. Roedd y cwestiwn yn ymwneud yn benodol
â’r Taliad Tanwydd Gaeaf. Ymatebodd Arweinydd y Cabinet a sawl Aelod Cabinet. |
|||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||
Cynigion y Gyllideb 2025/26 - 2028/29.** (I'w chyhoeddi ar 6/1/2025) Cofnodion: Gweithdrefn
Galw i Mewn - Brys: Mae’r penderfyniad hwn wedi'i eithrio o
Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod "naill ai Pennaeth y Gwasanaeth
Cyflogedig, y Swyddog Adran 151 neu'r Swyddog Monitro'n ardystio y gallai
unrhyw oedi sy'n debygol o gael ei achosi gan y Weithdrefn Galw i Mewn wneud
niwed i’r Cyngor neu fudd y cyhoedd, gan gynnwys methu cydymffurfio â gofynion
statudol”. Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ystyried
cynigion y gyllideb ar gyfer 2025-2026 i 2028-2029 fel rhan o strategaeth
cyllideb bresennol y Cyngor. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r cynigion cyllidebol a grynhowyd yn yr
adroddiad ac a nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad fel sail ymgynghoriad. 2)
Mabwysiadu'r
rhagolwg cyllidebol
diweddaredig ar gyfer y dyfodol fel y rhagosodiad cynllunio cychwynnol ar gyfer
y cynllun ariannol tymor canolig, a gaiff ei ystyried gan y Cyngor ar 6 Mawrth
2025. 3)
Cytuno ar yr ymagwedd at ymgynghori ac ymgysylltu â
staff, undebau llafur, preswylwyr, partneriaid a phartïon eraill â diddordeb
fel y'u hamlinellir yn adran 7 yr adroddiad. 4)
Cyflwyno adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad a'r
cynigion cyllidebol terfynol a dderbyniwyd gan y Cabinet ar 20 Chwefror 2025. |
|||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a
oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi
gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd y dylid: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan
y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu:
|
|||||||||||||||||||
Adolygiad Cydraddoldeb Blynyddol 2023/24. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb adroddiad a oedd yn
gofyn am gymeradwyaeth i gyhoeddi Adolygiad Cydraddoldeb Blynyddol y Cyngor ar
gyfer 2023/24 yn unol â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a'r
rheoliadau adrodd ar gyfer Cymru. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo cyhoeddi cynnwys yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||
Adolygiad Blynyddol o Daliadau Cyngor Abertawe mewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau Gofal adroddiad a oedd yn amlinellu'r adolygiad
blynyddol diweddaraf o daliadau gwasanaethau cymdeithasol. Roedd yr adroddiad
yn gofyn am ganiatâd i gychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ar y rhestr o daliadau
arfaethedig i fod yn berthnasol yn 2025/2026 a'r Polisi Codi Tâl Gwasanaethau
Cymdeithasol diwygiedig ar gyfer Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Cymorth a
gwasanaethau eraill a ddarperir gan Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Abertawe. Cynigiodd Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau Gofal y dylid ychwanegu'r newidiadau canlynol at yr
adroddiad: i)
Tâl
untro o £46.00 ar gyfer gosod cyfarpar larymau cymunedol. Ni fyddai hyn yn
effeithio ar gwsmeriaid presennol na chwsmeriaid y mae ganddynt angen a aseswyd
ar gyfer larwm cymunedol fel rhan o'u cynllun gofal a chymorth, byddai ond ar
gyfer cwsmeriaid sy'n dewis cael un. ii)
Cyflwyno
tâl llog a gweinyddol i dalu costau a ysgwyddir gan y Cyngor drwy daliadau
gohiriedig. Penderfynwyd: 1)
Derbyn
canfyddiadau adroddiad yr adolygiad blynyddol o daliadau. 2)
Bod
y Polisi Codi Tâl drafft ar gyfer Gofal Cymdeithasol, Gwasanaethau Cymorth a
gwasanaethau eraill a ddarperir gan Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Abertawe yn
destun ymgynghoriad cyhoeddus, yn enwedig unrhyw gynnydd uwchlaw chwyddiant yn
Rhestr Taliadau 2025/2026. 3)
Bod y taliadau
ychwanegol a gynigiwyd yng nghyfarfod y Cabinet heddiw yn cael eu cynnwys yn
Atodiad A a B yr adroddiad fel y bo'n berthnasol. 4)
Bod adroddiad pellach yn cael ei ystyried gan y Cabinet
ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben. |