Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

134.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)             Datganodd y Cynghorydd R V Smith buddiant personol a rhagfarnus yng Nghofnod 140, "Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael caniatâd gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol.

 

2)             Datganodd y Cynghorwyr R Francis-Davies, E J King a R V Smith buddiant personol yng Nghofnod 142, "Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Hamdden 2023-2024".

 

135.

Cofnodion. pdf eicon PDF 175 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)             Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2025.

136.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

137.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.

Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

138.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

139.

Polisi Parch, Hawliau a Pherthnasoedd (Polisi Ymddygiad Dysgwyr drafft yr awdurdod lleol) pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor Trawsnewid y Gwasanaeth Addysg a Sgiliau adroddiad a nododd polisi drafft yr awdurdod lleol ar gyfer ymddygiad, gan nodi disgwyliadau a chyfrifoldebau o ran meithrin perthnasoedd sy'n seiliedig ar barch a hawliau mewn ysgolion fel rhan o strategaeth ddiwygiedig ar gyfer gwella ymddygiad disgyblion.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y dylid newid teitl y Polisi i ddarllen “Polisi Parch, Hawliau a Chyfrifoldeb (Ymddygiad).

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r Polisi Ymddygiad drafft.

140.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag llywodraethwyr yr awdurdod lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu:

 

Ysgol Gynradd y Crwys

Alison Douglas

Ysgol Gynradd Treforys

Y Cyng. Yvonne Jardine

Ysgol Gynradd Portmead

Rochellena Richards

 

141.

Adolygiad Blynyddol o Daliadau (Gwasanaethau Cymdeithasol) 2025/2026. pdf eicon PDF 159 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal a nododd ganfyddiadau'r ymgynghoriad ynghylch Polisi Codi Tâl y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Gofal Cymdeithasol, gwasanaethau cymorth a gwasanaethau eraill a ddarperir gan Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Abertawe a'r taliadau terfynol a fydd yn berthnasol yn 2025-2026 yn dilyn yr ymgynghoriad.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Nodi canfyddiadau'r ymgynghoriad â'r cyhoedd fel rhan o'r Asesiad Effaith Integredig (IIA) llawn fel a amlinellir yn Atodiad C yr adroddiad.

 

2)             Derbyn y Polisi Codi Tâl am ofal cymdeithasol, gwasanaethau cymorth a gwasanaethau eraill a ddarperir gan Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Abertawe fel a amlinellir yn Atodiad A yr adroddiad.

 

3)             Rhoi taliadau newydd a thaliadau diwygiedig ar waith ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-2026 fel a amlinellir yn Atodiad B yr adroddiad.

142.

Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Hamdden 2023/2024. pdf eicon PDF 239 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu gweithrediadau partneriaeth cyfleusterau allweddol ym mhortffolio'r Gwasanaethau Diwylliannol, Parciau a Glanhau.

143.

Adroddiad Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf 2025/26. pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb ar y cynlluniau a ariennir drwy'r Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf. Gofynnodd i argymhelliad 2 gael ei ddiwygio.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo'r cynlluniau cynnal a chadw cyfalaf arfaethedig a restrir yn Atodiad A yr adroddiad.

 

2)       Dirprwyo awdurdod i Arweinydd y Cyngor, Dirprwy Arweinydd y Cyngor/Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, Aelod y Cabinet dros Addysg a'r Pennaeth Gwasanaethau Adeiladau a Gwastraff (mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau Addysg) i benderfynu ar brosiectau cyfalaf eraill pe bai cyllid ychwanegol ar gael.

 

3)             Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Cyllid i dderbyn unrhyw grant sydd ar ddod ar gyfer cynnal cyfalaf Addysg yn 2025-26.