Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnus â Chofnod 118 "Penodiadau
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael gollyngiad
gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion
yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol. 2)
Datganodd y Cynghorydd
A H Stevens gysylltiad personol â Chofnod 120 “Rhaglen Grant Cyfleusterau I’r Anabl A Grant Gwella 2025/26”. 3)
Datganodd y Cynghorydd
E J gysylltiad
personol â Chofnod 122 “Model Newydd Arfaethedig
ar gyfer Cyfleusterau Addysgu Arbenigol ar Draws Abertawe”. |
|||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd)
a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2025. |
|||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth
ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol ar Gyrff Llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y Cyd ag Aelod y
Cabinet dros Addysg a Dysgu:
|
|||||||||||
Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 3 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn
amlinellu'r Perfformiad Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2024/25. Penderfynwyd: 1)
Nodi
perfformiad y cyngor wrth gyflawni amcanion lles y cyngor yn Chwarter 3
2024/25. 2) Cymeradwyo defnyddio'r wybodaeth hon i lywio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywirol i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. |
|||||||||||
Rhaglen Grant Cyfleusterau I'r Anabl A Grant Gwella 2025/26. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
i gynnwys cynlluniau'r Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'r Grant Gwella yn Rhaglen
Gyfalaf 2025-26. Penderfynwyd: 1)
Y dylid cymeradwyo'r
Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'r Grant Gwella, fel y'i nodwyd, gan
gynnwys ei goblygiadau ariannol, a chynnwys y rhaglen yng Nghyllideb
Gyfalaf 2025-26. |
|||||||||||
Ymateb y Cabinet i Adroddiad y Panel Ymchwiliad Craffu i Asedau Cymunedol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd adroddiad a oedd yn amlinellu ymateb i argymhellion craffu blaenorol
ac yn cyflwyno cynllun gweithredu ar gyfer cytundeb. Penderfynwyd: 1)
Cytuno
ar yr ymateb a amlinellwyd yn yr adroddiad a'r cynllun gweithredu cysylltiedig. |
|||||||||||
Model newydd arfaethedig ar gyfer Cyfleusterau Addysgu Arbenigol ar draws Abertawe. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn nodi na dderbyniwyd unrhyw
wrthwynebiadau yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Statudol, ac yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer y cynnig i ail-ddynodi 25 o Gyfleusterau Addysgu
Arbenigol, newid arbenigedd 3 Chyfleuster Addysgu Arbenigol, agor 5 Cyfleuster Addysgu Arbenigol newydd, ehangu 4 Cyfleuster Addysgu Arbenigol a chau 5 Cyfleuster
Addysgu Arbenigol mewn ysgolion yn Abertawe fesul cam, yn dechrau ym mis Medi
2025. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
cynnig i ailddynodi 25 o Gyfleusterau Addysgu Arbenigol, newid arbenigedd 3
Chyfleuster Addysgu Arbenigol, agor 5 Cyfleuster
Addysgu Arbenigol newydd, ehangu 4 Cyfleuster Addysgu Arbenigol a chau 5
Cyfleuster Addysgu Arbenigol yn yr ysgolion a restrir yn Atodiad A yr adroddiad
fesul cam, yn dechrau ym Mis Medi 2025. |
|||||||||||
Cynnig i gyfuno Ysgolion Cynradd Blaen-y-maes a Phortmead. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i
ymgynghori ar uno ysgolion cynradd Blaenymaes a Phortmead yn un ysgol gynradd ym mis Medi 2027. Penderfynwyd: 1)
Rhoi
cymeradwyaeth i ymgynghori ar uno ysgolion cynradd Blaenymaes a Phortmead yn un ysgol gynradd ym mis Medi 2027 fel
yr amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad. 2)
Y
dylai'r Cabinet ystyried ymatebion yn dilyn y cyfnod ymgynghori. |
|||||||||||
Trawsnewid Gwasanaethau Dydd y Gwasanaethau i Oedolion. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wasanaethau Gofal adroddiad a oedd yn amlinellu'r model arfaethedig
i drawsnewid gwasanaethau dydd mewnol, y camau nesaf a'r cytundeb i symud
ymlaen gyda gwneud symudiadau dros dro yn rhai parhaol. Penderfynwyd: 1)
Cytuno
ar y model newydd arfaethedig o gyfleoedd dydd (chwe math o gyfle dydd, o
gefnogaeth gymdeithasol a chymunedol, hyd at gymorth dydd arbenigol mewn
canolfan) ac ar y sail hon, cytunwyd symud ymlaen gyda chyd-gynhyrchu i adolygu
ac ailfodelu gwasanaethau dydd mewnol. 2)
I
gefnogi'r uchod, mae symudiadau dros dro yn cael eu gwneud yn rhai parhaol ac
mae adeiladau gwag a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyfer gwasanaethau dydd yn
cael eu hailbwrpasu fel a ganlyn: a.
Bydd Gwasanaeth Anghenion Arbennig Maesglas yn aros yng Nghanolfan
Adnoddau Bro Tawe yn barhaol, a bydd hen adeilad Gwasanaeth Anghenion Arbennig
Maesglas
yn cael ei ailddatblygu'n bedwar fflat Byw â Chymorth dros dro i gefnogi
opsiynau symud ymlaen o ofal preswyl Anabledd Dysgu. b.
Nid fydd Gwasanaeth Dydd i Bobl Hŷn Tŷ Waunarlwydd yn ailagor a
bydd y ddarpariaeth yn parhau i gael ei bodloni gan Wasanaethau Dydd i Bobl
Hŷn eraill. Bydd safle blaenorol y Gwasanaethau Dydd i Bobl Hŷn
yn cael ei ailddatblygu'n Ganolfan Byw'n Annibynnol. c.
Bydd Toronto Place yn cael ei adleoli'n barhaol i Wasanaeth Dydd
Fforest-fach ac asesir adeilad Toronto Place ar gyfer tai neu ddefnyddiau
eraill. |
|||||||||||
Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Dyraniad Cyfalaf i Asedau Isadeiledd Priffyrdd 2025-26. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhau
Rhaglen Gwaith Cyfalaf ar gyfer asedau'r isadeiledd priffyrdd. Penderfynwyd: 1)
Caiff
y dyraniadau dangosol arfaethedig, ynghyd â'r Goblygiadau Ariannol a nodir yn Atodiad A yr adroddiad, eu
cymeradwyo a'u cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf. 2)
Rhoi
awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Priffyrdd a Chludiant, gyda chydsyniad Aelod y
Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, i flaenoriaethu, cwblhau a
chlustnodi arian i'r cynlluniau priodol yn unol â'r ymagwedd flaenoriaethu a
nodwyd yn yr adroddiad hwn. |
|||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn gofyn am
gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf)
i neilltuo ac awdurdodi cynlluniau i'r Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
cynllun cyfalaf ar gyfer y swm o £59,175 i osod 3 uned les/cawod ar safle
Millstream Way a'i gynnwys yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2024/25. 2)
Trosglwyddo
£150,000 o'r Gyllideb Benthyciadau Arbrisiant Eiddo (C05557) i Gyllideb Cyfalaf
y Safle Teithwyr (C07737). 3)
Cyflwyno
adroddiadau pellach mewn perthynas â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol i'r Cabinet
yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor i neilltuo cyllid i'r rhaglen gyfalaf pan ddaw
grantiau ar gael yn y dyfodol ar gyfer camau dilynol y prosiect. |
|||||||||||
Polisi Ymddygiad Afresymol Cwsmeriaid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
ar gyfer fersiwn ddiweddaredig y Polisi Ymddygiad Afresymol gan Gwsmeriaid. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo
fersiwn ddiweddaredig y Polisi Ymddygiad Afresymol gan Gwsmeriaid (Atodiad A
i'r adroddiad). |
|||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelodau'r Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd a Thrawsnewid Gwasanaethau
adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y ceisiadau am gyllid
ar gyfer y Gronfa Trafnidiaeth Leol, y Gronfa Ffyrdd Cydnerth, Y Gronfa
Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn a'r Gronfa Teithio Llesol , a chymeradwyaeth ddirprwyedig ar ôl derbyn llythyr
dyfarnu grant at y Cyfarwyddwr ac Aelod y Cabinet dros wariant ar gyfer y
prosiectau cysylltiedig yn 2025/26. Roedd yr
adroddiad hefyd yn ceisio cymeradwyaeth i gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn
Ariannol (Rhaglennu ac Arfarnu Cyfalaf) ac i ymrwymo ac awdurdodi cynlluniau
i'r Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
ceisiadau am gyllid grant a rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Cyllid ar
y cyd ag Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, Aelod y Cabinet dros
Drawsnewid Gwasanaethau a'r Cyfarwyddwr Lleoedd i dderbyn unrhyw arian grant a
ddyfernir ar gyfer cynlluniau'r Gronfa Trafnidiaeth Leol, y Gronfa Ffyrdd
Cydnerth, Y Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (Seilwaith Gwefru
Cerbydau Trydan) a'r Gronfa Teithio Llesol. 2)
Ychwanegu'r
cynlluniau cymeradwy at raglen gyfalaf y cyngor ar ôl derbyn llythyrau
dyfarnu'r grant gan y Swyddog A151, yn unol ag FPR7. |
|||||||||||
Parc Chwaraeon Bae Abertawe - Penodi Cyfarwyddwyr y Cwmni. Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd adroddiad a oedd yn dilyn y gymeradwyaeth flaenorol i ddatblygu
cytundeb partneriaeth newydd, drwy Gwmni Menter ar y Cyd , gyda Phrifysgol
Abertawe ar gyfer y cyfleusterau Chwaraeon yn Lôn Sgeti, ym Mhwll Cenedlaethol
Cymru a'r cyffiniau. Roedd angen cymeradwyaeth i benodi dau swyddog fel
Cyfarwyddwyr Cwmni er mwyn symud y strategaeth ymlaen i'r cam olaf. Penderfynwyd: 1)
Nodi
statws presennol strategaeth y Porth fel a gymeradwywyd yn flaenorol yng
nghyfarfod y Cabinet ym mis Hydref 2024 a chymeradwyo penodi dau o swyddogion y
cyngor, Cyfarwyddwr Lleoedd a Phennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol, Parciau a
Glanhau yn Gyfarwyddwyr Cwmni er mwyn gallu creu'r Cwmni Menter ar y Cyd erbyn
diwedd mis Mawrth 2025 (Porth 2). 2)
Dirprwyir
awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd a Phennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol,
Parciau a Glanhau i ymrwymo i bob trafodaeth a chytundeb ynghylch y Porth
nesaf, sef Porth 3 ar ôl ymgynghori â'r Aelodau Cabinet perthnasol. 3)
Dirprwyir
awdurdod i Arweinydd y Cyngor, y Swyddog Adran 151 a'r Swyddog Monitro i wneud
newidiadau i'r Cyfarwyddwyr enwebedig wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen. 4)
Nodi
bod yr argymhellion llawn a therfynol a gyflwynwyd gan y cyfarwyddwyr enwebedig
yn destun adroddiad a chymeradwyaeth bellach gan y Cabinet, ar gyfer Porth 4. |
|||||||||||
Blwyddyn Bontio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. ** Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn -
Brys:
Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “naill
ai Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig, y Swyddog Adran 151 neu'r Swyddog
Monitro'n ardystio y gallai unrhyw oedi sy'n debygol o gael ei achosi gan y
weithdrefn galw i mewn wneud niwed i'r cyngor neu fudd y cyhoedd, gan gynnwys
methu cydymffurfio â gofynion statudol". Cyflwynodd
yr Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad
ar y cyd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y trefniadau ar gyfer Blwyddyn
Bontio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025/26. Penderfynwyd: 1)
Rhoi
cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â rhoi Blwyddyn Bontio'r Gronfa Ffyniant Gyffredin
ar waith, fel yr amlinellir yn yr adroddiad, gydag Abertawe'n gweithredu fel
Awdurdod Arweiniol De-orllewin Cymru. 2)
Dirprwyir
y ddyletswydd o gwblhau unrhyw gytundebau priodol rhwng partneriaid awdurdodau
lleol, fel y nodir yn y paragraffau goblygiadau cyfreithiol ac ariannol, i'r
Cyfarwyddwr Lleoedd, y Cyfarwyddwr Cyllid a'r Prif Swyddog Cyfreithiol. 3)
Cymeradwyo'r
cyllidebau arfaethedig fel y nodir ym mharagraff 6. 4)
Caiff
dyfarniadau grant allanol dros £25,000 eu dirprwyo i'r Arweinydd mewn
ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet perthnasol, y Cyfarwyddwr Cyllid, y Cyfarwyddwr
Lleoedd a'r Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas neu unrhyw
swyddog sydd wedi'i awdurdodi i arfer y ddirprwyaeth ar ei ran. 5)
Ar
gyfer grantiau hyd at £25,000, dirprwyir penderfyniadau i'r Cyfarwyddwr
Lleoedd, y Pennaeth Gwasanaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, a'r Rheolwr
Datblygiad Economaidd a Chyllid Allanol, mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet
perthnasol. 6)
Dirprwyo
penderfyniadau ar y prosiectau a gyflwynir yn fewnol o fewn y cyngor i'r
Cyfarwyddwr Lleoedd mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet perthnasol. (e.e mân addasiadau i'r prosiect.) 7)
Bydd
adroddiadau FPR7 pellach yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet yn unol â
Chyfansoddiad y Cyngor er mwyn nodi prosiectau cyfalaf ychwanegol sy'n deillio
o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. |
|||||||||||
Gwahardd y cyhoedd: - Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu
bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff
gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan
Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn
perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes
canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||
Bloc B Abertawe Ganolog - Adroddiad Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth adroddiad a oedd
ceisio cymeradwyaeth, yn unol â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu ac
Arfarnu Cyfalaf), i ymrwymo ac awdurdodi cost ddiwygiedig cynllun Sgwâr y
Castell i'r Rhaglen Gyfalaf. Gofynnodd y
Swyddog Adran 151 i ddiwygiadau gael eu gwneud i'r adroddiad ac i'r
argymhellion. Penderfynwyd: 1)
Penderfynwyd
cymeradwyo'r argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad fel y’i diwygiwyd. |