Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr D H Hopkins & P V Smith gysylltiad personol â Chofnod 103
“Cyllideb Refeniw 2025/26”. 2)
Datganodd y Cynghorydd R V Smith
gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 112 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a
dywedodd ei fod wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad,
ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi Llywodraethwyr
Awdurdod Lleol. 3)
Datganodd y Cynghorydd A Anthony gysylltiad personol â Chofnod 103
112 “Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol”. 4)
Datganodd y Cynghorydd A S Lewis gysylltiad
personol a rhagfarnol
â Chofnod 112 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol” a gadawodd y cyfarfod cyn iddo
gael ei ystyried. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a
restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2025. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Undod ag Wcráin Atgyfnerthodd Arweinydd y Cyngor fod y cyngor mewn Undod ag Wcráin, gan nodi'r ffaith fod Rwsia wedi cychwyn ymosodiad milwrol llawn ar Wcráin ar 24 Chwefror 2022. Nododd ei fod yn bwriadu cyflwyno Hysbysiad o Gynnig pellach ynghylch y mater yn y man. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud Cofnodion: Gofynnodd Alec Thraves a Mark Evans gwestiynau am yr adroddiadau cyllideb. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd C L Philpott gwestiynau yn
ymwneud â Chofnod 107 “Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu: Dyraniad ychwanegol
Cyllid Atgyweiriadau a Chynnal a Chadw 2024/25”. Cafwyd ymateb gan Arweinydd y Cyngor a Swyddog
Adran 151. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu - Adroddiadau am y Gyllideb. (llafar) Cofnodion: Darparodd y
Cynghorydd C A Holley adborth ar graffu cyn penderfynu mewn perthynas â'r
adroddiadau am y gyllideb. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 3ydd 2024/25. Cofnodion: Gweithdrefn
Galw i Mewn - yn amodol ar Graffu Cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn wedi'i
eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod
yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i'r
wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn amlinellu
monitro cyllidebau refeniw a chyfalaf 2024/25 yn ariannol, gan gynnwys cyflwyno
arbedion cyllidebol. Penderfynwyd: 1 Nodi'r sylwadau a'r
amrywiadau, gan gynnwys yr ansicrwydd materol uwch, a nodwyd yn yr adroddiad
a'r camau gweithredu sydd ar y gweill er mwyn mynd i'r afael â'r rhain. 2) Cymeradwyo'r trosglwyddiadau
a'r defnydd o'r gronfa wrth gefn fel y nodir ym mharagraff 3.2 yr adroddiad a'r
ddarpariaeth chwyddiant fel y nodir ym mharagraff 4.3 yr adroddiad yn amodol ar
unrhyw gyngor pellach gan y Swyddog Adran 151 yn ystod y flwyddyn. 3) Bod y Cabinet yn pwysleisio’r
angen i bob Cyfarwyddwr barhau i leihau gwariant gwasanaethau yn ystod y
flwyddyn, gan gydnabod bod y gyllideb yn gyffredinol yn cael ei chydbwyso ar
hyn o bryd dim ond drwy ddibynnu ar ad-daliad grant ychwanegol yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru, cyllidebau
wrth gefn a ddelir yn ganolog a chyllidebau chwyddiant canolog a chronfeydd
wrth gefn. 4) Y gorwariant dangosol ym
Mharagraff 6.1 yr adroddiad gyda chamau gweithredu pellach i'w cadarnhau yn y
chwarter olaf unwaith y bydd mwy o eglurhad ynghylch y sefyllfa alldro sy'n
debygol fel arall. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2026/27 - 2028/29. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gweithdrefn
Galw i Mewn - yn amodol ar Graffu Cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn wedi'i
eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod
yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i'r
wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd y
Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi rhesymeg a diben y Cynllun Ariannol
Tymor Canolig, a manylodd ar y tybiaethau ariannu mawr ar gyfer y cyfnod, gan
gynnig strategaeth i gynnal cyllideb gytbwys. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2026-27 hyd at
2028-29 i'r cyngor fel sail ar gyfer cynllunio ariannol y gwasanaethau yn y
dyfodol. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Cyllideb Refeniw 2025/26. Cofnodion: Gweithdrefn
Galw i Mewn - yn amodol ar Graffu Cyn Penderfynu: Mae’r
penderfyniad hwn wedi'i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y
penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid
pwysig i'r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd y
Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran y
Gyllideb Refeniw ar gyfer 2025/26 i'w ystyried gan y Cabinet. Dywedodd Arweinydd y Cyngor y disgwylir i Lywodraeth
Cymru ddarparu cyhoeddiad am y gyllideb yn hwyrach yn y dydd ac roedd y Cabinet
yn awyddus i alinio nodau Llywodraeth Cymru a'r Fenter Benthyca Llywodraeth
Leol â rhai Cyngor Abertawe. Gallai hyn olygu gwneud diwygiadau yng nghyfarfod
y cyngor ar 6 Mawrth 2025 i sicrhau bod y cyngor yn cyflawni cymaint â phosib
yn brydlon. Penderfynwyd: 1)
Nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori ffurfiol a chytuno
ar unrhyw newidiadau i'r Cynigion Cyllidebol yn Atodiad D yr adroddiad yn
ogystal â'r sefyllfa o ran cyllidebau dirprwyedig fel y'u nodwyd yn Adran 4.15
a 4.17 yr adroddiad. 2) Nodi cyfanswm y gofyniad ariannu presennol a grybwyllwyd yn
Adran 4.6 yr adroddiad ac, yn unol â'r camau gweithredu posib a nodwyd yn
Adrannau 9 a 10 yr adroddiad, gytuno ar gamau gweithredu i gyflawni Cyllideb
Refeniw gytbwys ar gyfer 2025/26. Yn ogystal ag
adolygu'r cynigion arbed arian presennol, gwnaeth y Cabinet y canlynol: a) Adolygu a chymeradwyo'r
trosglwyddiadau wrth gefn a argymhellir yn yr adroddiad. b) Cytuno ar lefel treth y
cyngor ar gyfer 2024-25 i'w hargymell i'r cyngor. 3) Yn amodol ar y newidiadau,
mae'r Cabinet yn argymell y canlynol i'r cyngor am gymeradwyaeth: a) Cyllideb Refeniw ar gyfer
2025-26. b) Gofyniad y gyllideb ac
ardoll treth y cyngor ar gyfer 2025-26. 4)
Rhoi awdurdod i'r Swyddog Adran 151 i wneud addasiadau technegol bach
arferol ar gyfer y materion diweddaraf mewn perthynas â phraeseptau
/ ardollau etc. 5)
Rhoi awdurdod i'r Swyddog Adran 151 i wneud addasiadau technegol er mwyn
cael setliad terfynol ynghylch materion megis newidiadau i'r sylfaen drethu,
rhwymedigaethau 'pasbortio', trosglwyddiadau i
grantiau penodol neu oddi wrthynt, ariannu cyfalaf ar gyfer Menter Benthyca
Llywodraeth Leol etc. 6)
Byddai unrhyw gyllid
sylweddol ychwanegol yn cael ei roi wrth gefn dros dro er mwyn cydbwyso, a'r
cyngor fydd yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch neilltuo'r cyllid. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2024/25 - 2029/30. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gweithdrefn
Galw i Mewn - yn amodol ar Graffu Cyn Penderfynu: Mae’r
penderfyniad hwn wedi'i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y
penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid
pwysig i'r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd y
Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig cyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar
gyfer 2024/25 a chyllideb gyfalaf ar gyfer 2025/26 - 2029/30. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r gyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer
2024-25 a’r gyllideb gyfalaf ar gyfer 2025-26 - 2029-30 fel y nodir yn
Atodiadau A, B C, D, E, F a G yr adroddiad. 2)
Neilltuo'r arian
ychwanegol fel a nodwyd ym Mharagraff 2.6.2 yr adroddiad fel a ganlyn: i)
Taliad untro o
£1,000,000 i'r Gronfa Buddsoddi Cymunedol. ii)
Taliad blynyddol o
£395,000 ar gyfer Cyfarpar/Peiriannau Parciau. 3)
Gwneud addasiad technegol ar gyfer y gwariant cyfalaf ychwanegol mewn
perthynas â'r cyhoeddiad terfynol disgwyliedig am y cynllun Menter Benthyca
Llywodraeth Leol. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - cyllideb refeniw 2025/26. Cofnodion: Gweithdrefn
Galw i Mewn - yn amodol ar Graffu Cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn
wedi'i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi
bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i'r
wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd y
Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Refeniw ar gyfer 2025/26
ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai. Penderfynwyd argymell y
cynigion cyllideb a fanylir yn Adran 4 yr adroddiad i'r cyngor i'w cymeradwyo. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Cyfrif Refeniw Tai - Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2024/25 - 2028/29. Cofnodion: Gweithdrefn
Galw i Mewn - yn amodol ar Graffu Cyn Penderfynu: Mae’r
penderfyniad hwn wedi'i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y
penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid
pwysig i'r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd y
Swyddog Adran 151 a’r Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad a oedd yn cynnig cyllideb
gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2024/25 a chyllideb gyfalaf ar gyfer 2025/26 -
2028/29. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r trosglwyddiadau rhwng cynlluniau a'r
cyllidebau diwygiedig ar gyfer cynlluniau yn 2024/25. 2) Cymeradwyo cynigion cyllidebol 2025/26 – 2028/29. 3) Cymeradwyo'r cynlluniau
unigol fel y'u dangosir yn Atodiad B yr adroddiad sydd wedi'u rhaglennu dros y
cyfnod 4 blynedd fel yr amlinellir yn yr adroddiad, a chymeradwyo'r goblygiadau
ariannol ar gyfer ariannu dros y 4 blynedd. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i
neilltuo £1.162m pellach i'r rhaglen gyfalaf ar gyfer atgyweirio a chynnal a
chadw ysgolion. Penderfynwyd neilltuo £1.162m
pellach i'r rhaglen gyfalaf ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i neilltuo
£1.2m pellach i'r rhaglen gyfalaf ar gyfer cyfleuster 2G gyda pharcio
cysylltiedig yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe fel rhan o'r Rhaglen Ysgolion
Bro. Penderfynwyd: 1)
Neilltuo
£1.2m i'r rhaglen gyfalaf ar gyfer cyfleuster 2G gyda pharcio cysylltiedig yn
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe fel rhan o'r Rhaglen Ysgolion Bro. 2)
Defnyddio'r cyllid grant ar gyfer y cynllun Parciau
"C07889 Gwaith Lleoedd Chwarae Hanfodol" yn 2024/25, gan sicrhau bod
Cyfraniad Refeniw i Wariant Cyfalaf gwerth £1.2m ar gael ar gyfer cynllun cae
2G YGG Bryn Tawe yn y blynyddoedd i ddod. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad Is-ddeddfau Bae Abertawe. Cofnodion: Tynnwyd yr eitem
hon yn ôl |
|||||||||||||||||||||||||||||
Ardrethi Busnes - Cynllun Cymorth Ardrethi Dros Dro (Cymru) 2025/26. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Swyddog Cyllid (Swyddog Adran 151) adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth ac yn
ceisio mabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch
dros dro sy'n berthnasol i Ardrethi Busnes, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru
ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26. Penderfynwyd: 1)
Nodi
manylion y cynllun y nodir yn yr adroddiad. 2)
Mabwysiadu'r
Cynllun Rhyddhad Ardrethi a amlinellir yn yr adroddiad ar gyfer 2025/26. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Chronfa Teithio Llesol..** (I'w chyhoeddi ar 14/2/25) Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer y cais am amrywiad i arian y Gronfa Teithio Llesol. Roedd yn ceisio cymeradwyaeth ddirprwyedig
ar ôl derbyn llythyr dyfarnu grant ar gyfer gwariant ar y prosiectau
cysylltiedig yn 2024/25. Roedd yr adroddiad yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y
Weithdrefn Ariannol, "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf", i neilltuo
ac awdurdodi cynlluniau i'r Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r cais am
amrywiad i arian grant a rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Cyllid, ar y
cyd ag Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, a'r Cyfarwyddwr
Lleoedd, i dderbyn unrhyw arian grant a ddyfernir ar gyfer cynlluniau'r Gronfa
Teithio Llesol. 2)
Adlewyrchu'r cynlluniau
Teithio Llesol diwygiedig, ynghyd â'r goblygiadau ariannol cyffredinol sydd
wedi gostwng yn gymharol fach, yn rhaglen gyfalaf derfynol y cyngor a gynigir
yn unol ag FPR7. |
|||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a
oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi
swyddi gwag Llywodraethwyr yr awdurdod lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan
y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu:
|